Mae gwirioneddol naws y Nadolig yn nhref Llanbed a hynny ar drothwy mis Rhagfyr. Ddoe cynhaliwyd Ffair Nadolig lwyddiannus yn Neuadd y Celfyddydau Prifysgol y Drindod Dewi Sant Llanbed gyda stondinau amrywiol.
“Roedd yr ymateb yn dda iawn.” meddai Rebecca Doswell, un o’r trefnwyr. “Er gwaethaf y tywydd garw, roedd y lle’n llawn o fasnachwyr a phrynwyr.”
O goed Nadolig a gwinoedd lleol i grefftiau, anrhegion a gwaith celf, roedd rhywbeth yno i bawb. Darparwyd bwyd a chyfle i weld Sion Corn ei hunan!
Gwelwyd Marchnad y Ffermwyr yn dychwelyd i’r Stryd Fawr yr wythnos ddiwethaf hefyd, wedi blynyddoedd ger maes parcio Sainsbury’s. Symudiad i’w groesawu yn ôl pawb. Roedd yn tynnu mwy o gwsmeriaeth gan siopwyr y dref ac yn sicrhau bod y cwsmeriaid arferol yn prynu yn y siopau hefyd.
Mae pobl a sefydliadau lleol yn tynnu at ei gilydd adeg Gŵyl y Geni bob blwyddyn. Mae aelodau’r Ford Gron yn gosod coed Nadolig uwch ben siopau’r dref a chriw o fechgyn y Siambr Fasnach yn codi’r goleuadau Nadolig yn y prif strydoedd.
Trefnir noson o siopa hwyr yn Llanbed ar y 10fed o Ragfyr rhwng 5 ac 8 o’r gloch yr hwyr. Dyma gyfle i wneud eich siopa yn lleol, mwynhau adloniant stryd a mynd â’r plant i weld Sion Corn eto. Y gŵr gwadd eleni fydd Gareth Davies y chwaraewr rygbi talentog dros y Sgarlets a Chymru.
Digwyddiad unigryw arall yn Llanbed ychydig ddyddiau cyn y Nadolig yw’r Farchnad Ddofednod yn Neuadd Fictoria. Cynhelir hynny eleni ar yr 21ain Rhagfyr lle bydd cystadleuaeth am y twrci gorau ac arwerthiant gwahanol ddofednod ar gyfer gwledd y Nadolig.
Ceir digwyddiadau nodedig eraill yn y dref sy’n mynd i wir ysbryd yr Ŵyl – Y Plygain a Carol Cerdd a Chân.
Cynhelir y Plygain ar nos Lun y 7fed o Ragfyr yng nghapel y brifysgol am 7 o’r gloch.
Cyngerdd Nadoligaidd yw Carol Cerdd a Chân a drefnir er mwyn codi arian tuag at Gymorth Cristnogol bob blwyddyn. Ar y 19eg Rhagfyr eleni yn Eglwys San Pedr Llanbed am 7 o’r gloch ble fydd y canlynol yn cymryd rhan: Côr Merched Corisma, Disgyblion Ysgol Carreg Hirfaen, Prif Swyddogion Ysgol Bro Pedr, Côr Llefaru Sarn Helen, Parti Gernant, Lowri Elen, Canon Aled Williams, Elin Williams ac Aelodau’r Urdd.