Rhedwyr Sarn Helen yn Ras Gŵyl Dewi

Owain Sgiv
gan Owain Sgiv

logo sarn helenRoedd cynhrychiolaeth gref o glwb rhedeg Sarn Helen yn cystadlu yn Ras Gŵyl Dewi flynyddol Llanddewi Brefi ddydd Sul.

Gethin Holland o Glwb Athletau Aberystwyth oedd yn fuddugol yn y ras 10k, gan orffen mewn amser o 0:35:09.

Roedd Owain Schiavone, sy’n ddi-glwb, yn ail mewn amser o 0:38:18, a Mark Finlayson o glwb Les Croupiers yn drydydd mewn 0:39:10.

Michael Davies (0:39:55) oedd yn arwain y gad i Sarn Helen, gan orffen yn bumed ac yn ail yn y categori i ddynion dros 40 oed, gydag Andrew Davies (0:40:45) yn chweched, Kevin Davies (0:41:02) yn seithfed a Sion Price (0:41:59) yn wythfed.

Enid Gruffudd o Aberystwyth oedd y gyntaf o’r merched i orffen mewn amser o 0:44:44 gyda Sian Roberts-Jones (0:45:34) o Sarn Helen yn ail.

Canlyniadau rhedwyr eraill Sarn Helen

20 – Dorian Rees (0:47:45)

21 – Eleri Rivers (0:47:42)

25 – Jolly Dee (0:50:12)

27 – Michell Readwin (0:51:07)

40 – Helen Willoughby (1:08:03)

Canlyniadau llawn i’w gweld yma