Llanbed – Ardal yr Eisteddfodau

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn o eisteddfota yn lleol.  Cynhaliwyd eisteddfodau ysgol o gwmpas Gŵyl Ddewi a bu eisteddfodau cylch a sir yr Urdd yn ddiweddar.  Cyfnod prysur iawn o ddysgu gwaith, ymarferion a chnoi ewinedd wrth gystadlu ar lwyfan o flaen cynulleidfa fawr a beirniaid parchus.

Cystadleuaeth rhwng adroddwyr, llefarwyr, llenorion, cantorion a cherddorion yw’r Eisteddfod fodern yn bennaf. Cynhelir Eisteddfodau mawr a bach ledled Cymru. Y mwyaf yw’r Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Yn yr ardal hon mae Eisteddfodau Clybiau Ffermwyr Ifanc yn boblogaidd iawn yn nhymor yr Hydref. Yr eisteddfodau blynyddol lleol yw Eisteddfod Capel y Groes, Pumsaint, Felinfach ac Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan.  Yn ogystal ceir Eisteddfod Ddwl y Papurau Bro yn mis Hydref sef noson anffurfiol o gystadlaethau ysgafn.

Y cofnod cyntaf sydd gennym am Eisteddfod yw hwnnw ym Mrut y Tywysogion am yr un a gynhaliwyd yng nghastell Yr Arglwydd Rhys yn Aberteifi ym 1176. Trefnodd Rhys ddwy gystadleuaeth, y naill ar gyfer beirdd a’r llall ar gyfer cerddorion.

Eisteddfod Llanbed 2014Gallwn ymfalchïo fod y traddodiad yn parhau yn yr ardal hon, a hynny oherwydd dyfalbarhad gwirfoddolwyr. Ond yn fwy na hynny, dylem ymfalchïo fod yr eisteddfodau yn parhau i feithrin talentau newydd.

Pwy enillodd gystadleuaeth Unawd Bariton Bas 18 i 25 oed yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984? Neb llai na Bryn Terfel o Bantglas. Erbyn heddiw mae’n ganwr opera byd enwog. Ble fyddai ef heddiw oni bai am fagwraeth yn yr eisteddfodau?

Enghraifft arall yw Elliw Dafydd o Silian, neu Anni Dafydd fel ei hadnabyddir hi heddiw ym myd y ddrama. Bu Elliw yn llwyddiannus mewn nifer fawr o eisteddfodau gan gynnwys eisteddfodau’r ysgol, eisteddfodau’r Urdd a’r Ffermwyr Ifanc. Yn ddiweddar bu’n teithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn sioe ‘Yr Hwyaden Fach Hyll’ ac yn ymddangos ar gyfres newydd ‘Lan a Lawr’ ar S4C. Merch ifanc leol amryddawn.

Felly os am roi’r cyfle i’ch plant a phobl ifanc gwnewch yn siŵr eu bod yn cael y cyfle i gystadlu mewn eisteddfodau, ac os am wledd o adloniant, mynnwch fod yn rhan o’r gynulleidfa.

 

Ebrill 8 – Eisteddfod Capel y Groes

Mai 26-30 – Eisteddfod yr Urdd Caerffili

Gorffennaf 7-12 – Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Awst 1-8 – Eisteddod Genedlaethol Maldwyn

Awst 29-31 – Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbedr Pont Steffan

Hydref 9, 16 a 17 – Eisteddfod CFfI Sir Gâr

Hydref 29 a 31 – Eisteddfod CFfI Ceredigion


Tachwedd 21 – Eisteddfod CFfI Cymru