Ffasiwn yn Llanbed

gan Lan Llofft

Yn Llanbed rydyn ni wastad wedi bod yn lwcus â’r holl siopau bwtic ffasiwn sydd wedi bod yn ein tref. Pan oeddwn i’n gweithio ym myd y ffasiwn yn Llundain nes i gwrdd â sawl person oedd wedi clywed am Lanbed oherwydd B J Jones, y siop ffasiwn i fenywod a dynion. Rhwng B J Jones a Daniel Davies bydde pobl yn dod o bob cwr o Gymru a hyd yn oed y Deyrnas Unedig i dreulio diwrnod yn siopa dillad yn Llanbed. Yn anffodus dros y blynyddoedd diwethaf – fel sawl Stryd Fawr arall – mae sawl siop annibynnol wedi cau. Ond wrth golli rhai siopau am resymau gwahanol, mae rhai newydd fel Duet, Lambis, ac yn fwy diweddar, Lan Llofft, wedi agor. Mae Llanbed yn dal i gael ei adnabod fel tref i ymweld â hi ar gyfer siopau ffasiwn. Yn aml mae cwsmeriaid yn dod lan o Gaerdydd, draw o Bowys a lawr o’r gogledd i siopa gyda ni.

Tra’n gweithio yn Llundain ges i’r cyfle i agor siop Lan Llofft uwchben siop fy modryb, Duet, yn Llanbed. Roedd hyn 5 mlynedd yn ôl a dyna un o’r penderfyniadau gorau i fi wneud gan fod gen i’r gorau o ddau fyd: byw yng nghefn gwlad tra’n gweithio ym myd ffasiwn.
image
Yn ogystal â Duet a Lambis sydd yn gwerthu dillad smart, ffurfiol, mae gyda ni siop D L Williams sydd yn gwerthu dillad mwy anffurfiol a chotiau. Hefyd mae gennym siopau Random Collection a Merlin’s Cave sydd yn gwerthu dillad lliwgar.

Rhan o’m swydd yw mynd nôl i Lundain bob 4-5 mis a dewis casgliadau newydd fydd yn cyrraedd y siopau 6 mis wedyn. Wrth weithio gyda’r cwmniau fe wnawn ni greu a phrynu casgliad dwi’n credu sydd yn falans cywir rhwng fod ar trend (yn ôl Llundain) ond hefyd fydd yn addas i gwsmeriaid yng nghefn gwlad Cymru; allai ddim rhagweld “jumpsuit” lledr yn hit mawr yn Llanbed!

Sioeau ffasiwn yn Llundain
Sioeau ffasiwn yn Llundain

Serch hynny yn aml iawn dwi’n siŵr bod ffasiwn cefn gwlad yn cael effaith ar waith y dylunwyr yn Llundain; dwi wedi gweld sawl casgliad yn cynnwys crysau “check” coch, tweed, a’r tymor yma y trend fawr yw double denim.

Felly falle does ’na ddim llawer o wahaniaeth rhwng ffasiwn Llanbed a Llundain. Ond dwi’n teimlo’n falch iawn fy mod i wedi cael y cyfle i helpu gario mla’n y traddodiad o redeg bwtic ffasiwn yn Llanbed.
image