Eisteddfod Gadeiriol Capel y Groes

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies
Yn ennill y gadair oedd Sioned Martha Davies. Disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Bro Pedr, Llambed.
Yn ennill y gadair oedd Sioned Martha Davies. Disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Bro Pedr, Llambed.

Cynhaliwyd Eisteddfod Capel y Groes, ger Llanwnnen ar ddydd Mercher, Ebrill 8fed. Cadeirydd y pwyllgor yw Manon Richards. Beirniaid y dydd oedd Cerdd: Efan Williams, Lledrod a Llên a Llefaru: Mair Wyn, Glanaman. Merch lleol oedd cyfeilydd y dydd sef Gwawr Jones o Drefach.

Bu cystadlu brwd yno drwy’r dydd.

Dyma rai o enillwyr y dydd: [Cyfyngedig] Canu dan 8  – Swyn Tomos. Adrodd dan 8 – Fflur Morgan. Canu 8 oed tan oed gadael ysgol gynradd – Nia Eleri Morgans. Adrodd 8 oed tan oed gadael ysgol gynradd – Lois Jones.

Agored – Unawd dan 6 – Mari Williams. Adrodd dan 6 – Dafydd Bennett. Unawd 6 – 8 – Alwena Mair Owen. Adrodd 6 – 8 – Alwena Mair Owen. Unawd 8 – 10 – Glesni Morris. Adrodd 8 – 10 – Glesni Morris. Unawd 10 – 12 – Sioned Fflur Davies. Llefaru 10 – 12 – Sioned Fflur Davies. Canu Emyn dan 12 – Alwena Mair Owen. Unawd ar unrhyw offeryn cerdd – Sioned Fflur Davies. Parti Canu – Ysgol Bro Pedr.

Darllen o'r Ysgrythur

Darllen darn o’r Ysgruthur dan 16 – Sara Elan Jones. Canu Emyn 12 – 16 – Hanna Medi Davies. Canu Penillion dan 16 – Elin Fflur Jones. Unawd 12 – 16 – Hanna Medi Davies. Adrodd 12 – 16 – Megan Teleri Davies. Deuawd dan 16 – Beca Ann Jones a Sara Elan Jones. Enillwyd y gadair i rai o dan 21 oed gan Sioned Martha Davies, Gwyddgrug.