E S T R O N S

gan lena daniel

Bu’n ddiwrnod hanesyddol i Rhodri Daniel, Llysbarcud Cellan, Ebrill y 6ed eleni. Cafodd sengl cyntaf Saesneg ei fand E S T R O N S ei rhyddhau – dyma wireddu breuddwyd ers dyddiau ymarferion y grwp Java yn oruwch ystafell y garej dros 10 blynnedd yn ôl erbyn hyn.

Pedwar aelod sydd yn y band – Huw Parry o Lanrhystud ar y drymiau, James Keeley o Gernyw, Rhodri ar y gitars, a Tali Kaelstorm o dras Canada a Sweden yn canu. Ychwanegwyd Bjorn – babi Tali sy’n 6 mis oed erbyn hyn i fod  yn aelod o’r band yn ddiweddar (sylwch ar glawr y sengl!) Mae yna fideo “gwahanol” dwedwn ni, yn rhan o’r sengl hefyd…

estrons2

Mae’r band eisioes wedi rhyddhau sengl Gymraeg – C-C-Cariad a hyfryd oedd  gweld Estrons yn perfformio’r gân ar y rhaglen Ochr 1 ar S4C  y llynedd.  Braf oedd hefyd darllen erthygl amdanynt yn Golwg.

Bu’r band yn chwarae mewn amryw o glybiau yn Nghaerdydd ers ei ffurfio tua 2 flynedd yn ôl ac erbyn hyn mae tipyn o ddilynwyr yn dangos diddordeb yn ei math o gerddoriaeth.

Mewn erthygl yn y South Wales Evening Post yn ddiweddar – o dan y teitl “The best music in South Wales” – gwnaeth Rhodri ddisgrifio sŵn y band fel cerddoriaeth indie/garage! Mewn erthygl  a ddarllenais amdanynt ar wefan dilynwyr cerddoriaeth “We close tonight ” cafodd math o fiwsic E S T R O N S ei ddisgrifio fel ei fod mor nerthol a phwerus â lori Edie Stobart heb frecs a’r 2 gitarydd yn chwarae ar gyflymder Lewis Hamilton!!

Mae Adam Walton DJ ar Radio Wales yn dipyn o ffan ac o ganlyniad mae’n chwarae caneuon E S T R O N S  yn rheolaidd. Clywais y gân Aliens – sef teitl ei sengl newydd ar radio Beca yn ddiweddar hefyd!

Bu’r band yn ffodus o gael ei wahodd yn ôl i Sŵn Festival – gŵyl i fandiau sy’n cael ei drefnu gan Huw Stephens, DJ ar Radio 1,  yn Bar Gwdihw lawr yn y brifddinas dros y penwythnos ac yn ôl y gynulleidfa, E S T R O N S oedd un o fandiau gorau’r noson!

Efallai nad yw cerddoriaeth E S T R O N S at ddant pawb – yn enwedig os taw ym myd cystadleuthau mwy parchus eisteddfodol yw’r arfer – ond rhaid canmol yr unigolion yma am eu brwdfrydedd a’u hymroddiad i lwyddo mewn byd sy’n estron(!) iawn i’r mwyafrif ohonom.

estrons1

I glywed y sengl newydd  a dysgu mwy am y band ewch i Facebook, Spotify, Sound Cloud, iTunes a Bandcamp ac wedi teipio yr enw E S T R O N S i mewn fe glywch gerddoriaeth sydd yn ôl un cynhyrchydd cerddoriaeth E S T R O N S  yn sefyll allan, fel y priflythrennau yn enw’r band, yn uchel ac yn hyderus.  Pob lwc iddynt i’r dyfodol!