Cymanfa Ganu yr Undodiaid

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Cynhaliodd Undeb Cerddorol Undodiaid Ceredigion ei 123ain Cymanfa Ganu yng Nghapel y Graig, Llandysul ddydd Sul, Ebrill 26ain. Braf oedd gweld y capel yn gyfforddus lawn ar gyfer Oedfa’r Plant a’r Ieuenctid.

Rhwng y ddau gyfarfod cafwyd te arbennig wedi ei baratoi gan wragedd y Gymanfa. Cafodd pawb gyfle i gymdeithasu ymysg ei gilydd.

Llywydd y prynhawn oedd Mrs Teleri Morris-Thomas o Gapel y Graig a Llywydd yn Oedfa’r Hwyr oedd Mr Ronald Thomas, Capel Cribyn. Cafwyd areithiau arbennig gyda’r ddau.

IMG_3868

Mr Jonathan Morgan gafodd y pleser o arwain, gyda J. Eirian Jones, Cwmann yn cyfeilio. Bu’r ddau yn brysur iawn yn y ddau gyfarfod. Cafwyd canu arbennig yn y ddwy oedfa a dim ond canmol a wnaeth Jonathan Morgan o aelodau’r côr. Anogodd y pwyllgor i ddal ati i drefnu Cymanfa yn flynyddol am flynyddoedd eto.

IMG_3864 IMG_3839

Ymlaen i 2016!