Ymunwch ag ‘Awr Ddaear’ heno yn Llanbed

Awr Ddaear

Awr Ddaear

Ymunwch â dathliad byd-eang ein planed anhygoel! Bydd Awr Ddaear WWF 2016 yn digwydd heno – nos Sadwrn 19 Mawrth 2016 rhwng 8.30yh a 9.30yh.

Bydd miliynnau o bobl ar draws y byd yn ymuno â’r digwyddiad trwy ddiffodd eu goleuadau am awr i ddangos eu bod yn poeni am ein planed anhygoel.

Roedd tua hanner miliwn o bobl yn rhan o’r Awr Ddaear yng Nghymru y llynedd, gyda sefydliadau eiconig fel y Senedd ym Mae Caerdydd, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a Chastell Caernarfon, yn ogystal â 235 o ysgolion ar draws y wlad, yn ymuno â ni i ddangos eu bod yn poeni am ddyfodol y Ddaear.

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn bygwth dyfodol a chynefinoedd nifer o anifeliaid prydferth fel orangwtaniaid a theigrod, ac mae hefyd yn bygwth pobl a chymunedau ar draws y byd.

Neuadd Fictoria

Neuadd Fictoria

Sut gallwch fod yn rhan o’r Awr Ddaear eleni? Gallwch fwyta cinio wrth olau canwyll gyda’ch ffrindiau neu’ch teulu, mynd am dro gyda’r nos gyda rhywun sy’n bwysig i chi, neu fwynhau’r awr ar eich pen eich hunan, mae Awr Ddaear WWF yn noson i’w chofio.

Yma yn Llanbed gallwch ymuno mewn dathliad arbennig o gerddoriaeth a chân dan olau llusernau yn Neuadd Fictoria.  Bydd Mulberry Bush yn darparu bwyd blasus o 7 o’r gloch ymlaen.  Bydd y perfformiadau wedi diffodd y golau yn dechrau am 8.30 o’r gloch.

Ymunwch ag Awr Ddaear WWF nawr a diffoddwch eich goleuadau am 8.30yh heno nos Sadwrn 19 Mawrth 2016.

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *