Ymchwilio i lygredd afon Dulas

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

 

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n ymchwilio ar hyn o bryd i achos o lygredd mewn afon yn ardal Llanbed.

Mae lle i gredu fod y llygredd wedi’i ryddhau o safle treulio anaerobig (Anaerobic Digestion) i nant fechan cyn ymuno ag afon Dulas sydd yn ei thro yn ymuno ag afon Teifi.

Dyw effaith y llygredd ddim yn amlwg eto, ond mae’r swyddogion yn parhau i ymchwilio gan geisio atal y risg o lygredd pellach.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cydweithio â rheolwr y safle ac wedi cadarnhau nad oes cysylltiad rhwng y digwyddiad hwn â’r llygredd yn afon Teifi ym mis Rhagfyr 2016 pan gafodd o leiaf 1,000 o bysgod eu lladd yn agos at Dregaron.

“Rydym wedi cadarnhau bod y llygredd wedi’i atal yn ei darddiad, ond mae symiau mawr o’r deunydd eisoes wedi mynd i’r afon,” meddai Ben Wilson, Rheolwr Gweithrediadau Ceredigion CNC.

“Mae ein swyddogion yn parhau ar y safle ac yn gweithredu i leihau risg o lygredd pellach.”