Ydy Llanbed yn gynefin naturiol i’r Gymraeg bellach?

Y sgyrsio ar Sgwâr Llanbed

Y sgyrsio ar Sgwâr Llanbed

Mae pawb yn ymfalchïo bod ardal Llanbed wedi bod yn gynefin naturiol i’r iaith Gymraeg dros y blynyddoedd. Mae’n dref fach hyfryd; yn ardal amaethyddol sy’n parhau i gynnig cyflogaeth weddol dda gyda siopau a busnesau teuluol, dwy archfarchnad a phrifysgol hanesyddol. Ceir ysgolion da, cymdeithasau gweithgar a chymunedau’n driw i’r uned deuluol.

Yn wir, gan fod Llanbed yn arfer bod yn gymaint o gynefin naturiol i’r iaith Gymraeg, roedd Prifysgol Caerdydd yn arfer cynnal cwrs preswyl wyth wythnos dros gyfnod yr haf ym Mhrifysgol Llanbed am flynyddoedd.  Roedd y dysgwyr a fynychai’r cwrs yn llwyddo i feistroli’r iaith erbyn diwedd yr wyth wythnos oherwydd natur y Cwrs Wlpan ac oherywdd y cyfleoedd oedd yn y dref i’r dysgwyr i gyfathrebu’n Gymraeg.

Ond i’r rhai a welodd fideo 1968 o Lanbed a archifwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol ar youtube yn ddiweddar, mae’n syndod i feddwl bod cymaint wedi newid dros bron hanner canrif.

Yng Nghyfrifiad 2011, darganfu fod 19% (562,000) o breswylwyr Cymru yn gallu siarad Cymraeg. Mae’n realiti bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng a bod yna fygythiad gwirioneddol i ddyfodol un o ieithoedd hynaf Ewrop.

Yn ôl cyfrifiad 2011 roedd 47% o drigolion Llanbed yn gallu siarad Cymraeg. Dyma ganran eithaf iachus, ond eto mae’n ofudus i sylweddoli bod y ffigwr o dan hanner cant y cant. Gellir dal i glywed y Gymraeg ar wefusau pobl ar strydoedd y dref, mewn mannau gwaith ac mewn cylchoedd cymdeithasol fel y Clwb Rygbi, y capel a’r Clwb Ffermwyr Ifanc.  Ond fe glywir y Saesneg yn aml ar y strydoedd hefyd. Bellach ni ellir boddi newydd-ddyfodiaid mewn Cymreictod.  Gellir byw mewn cynefin hollol Saesneg os y dymunir.

Ond mae’n fwy o achos gofid bod 44% o bobl Llanbed heddiw heb unrhyw sgil yn y Gymraeg o gwbl. Heb unrhyw sgil yn y Gymraeg o gwbl – yn Llanbed! Pam hynny?

Mae ysgolion lleol yn gweithio’n dda i ehangu’u darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhoddir y cyfle i bob plentyn yn yr ardal i feithrin eu sgiliau Cymraeg. Ond ydy cael dwy ffrwd ieithyddol yn ysgol y dref yn rhwystr i ddatblygiad y Gymraeg?

Ydy’r diffyg cyflogaeth yn ffactor bod canran uchel o bobl ifanc yn symud i fyw i ardaloedd eraill? Gwelwyd llefydd gwaith fel y ffatri ddillad, y mart a’r felin lifo yn fideo 1968 o’r dref. Oes cyflogwyr mawr wedi eu disodli nhw ers yr amser hynny?

Ydy’r ffaith bod Llanbed yn ardal brydferth, heddychlon a rhad yn ffactorau bod llawer o bobl ddi Gymraeg yn dymuno dod i fyw yma? Yn ôl y cyfrifiad eto, dim ond 53% o bobl Llanbed heddiw a anwyd yng Nghymru ac o bosib mewn cynefin naturiol i’r iaith Gymraeg. Ganwyd 33% o drigolion Llanbed yn Lloegr.

Digwyddiad Ras yr Iaith yn dathlu'r Gymraeg yn Llanbed y llynedd

Digwyddiad Ras yr Iaith yn dathlu’r Gymraeg yn Llanbed y llynedd

Felly oes digon o ddarpariaeth yn y dref i gynnig gwersi a gweithgareddau Cymraeg i oedolion sy’n dymuno dysgu Cymraeg ac a oes digon yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth pobl newydd i’r ardal o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn cynefin naturiol fel Llanbed?

Mae angen mwy o ddigwyddiadau gweladwy a deinamig i ddathlu’r iaith Gymraeg yn y dref – digwyddiadau fel Ras yr Iaith a gynhaliwyd llynedd a digwyddiad fel gŵyl gerddoriaeth Gymraeg Tegaroc a gynhelir yn Nhregaron.  Oes mwy y gall CERED, y fenter iaith, ei wneud yn hyn o beth tybed?

Dydy digwyddiadau fel eisteddfodau a Chymanfaoedd Canu yn anffodus ddim ym myd y di Gymraeg.  Rydym yn llwyddo eu cuddio rhagddynt rhag newid cyfrwng iaith y digwyddiadau traddodiadol hynny. Rhaid i ni chwifio’r faner yn uchel ac ymffrostio mai cynefin naturiol y Gymraeg yw hon. Beth amdani?

Mae Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnal gwersi Cymraeg mewn mannau fel Werndriw, y Ganolfan Hamdden a Neuadd Fictoria. Ond mae dysgu iaith yn fwy na mynychu gwersi yn unig, ac mae byw mewn cynefin naturiol yr iaith yn gymorth mawr.

Mae croeso i Gymry Cymraeg a dysgwyr i fynychu CYD bob bore Mawrth rhwng 11 a 12 o’r gloch yn y Llew Du Llanbed. Dyma un man lle y gellir ceisio dal tro’r trai.  Yno, daw dysgwyr i sgwrsio’n Gymraeg a magu hyder er mwyn ceisio croesi’r bont ieithyddol a dod yn fwy rhugl.  Beth am alw draw i siarad â nhw?

A beth am sefydlu cyfarfodydd eraill tebyg yn y pentrefi cyfagos?  Wedi darllen y ffeithiau uchod, mae llawer iawn gyda ni y dylem wneud er mwyn ceisio cadw Llanbed yn gynefin naturiol i’r iaith Gymraeg.

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *