Coeden deulu ryfeddol disgyblion Cwrtnewydd
Mae stori cysylltiad rhwng un teulu ac un ysgol leol yn un ryfeddol.
Mewn canrif a mwy mae dros 73 o blant tros chwe chenhedlaeth wedi bod yn mynd i ysgol gynradd Cwrtnewydd.
Wrth i’r ysgol gau, mae un o’r disgynyddion wedi creu coeden deulu sy’n dangos y cysylltiad yn mynd yn ôl i ddiwrnod cynta’r ysgol bron 140 o flynyddoedd yn ôl.
A thros gyfnod y chwe chenhedlaeth, does dim bylchau wedi bod yn y llinyn hwnnw sy’n cysylltu Ysgol Cwrt a’r teulu oedd yn hanu o fferm Penlan Fach.
“Fy mab i yw’r ieuengaf yn yr ysgol ar hyn o bryd, ac fe ddechreuodd e adeg y Pasg,” meddai Emyr Rees o Gwmsychbant am ei fab, Rhodri, sy’n bedair oed.
“Fe wnaeth hynny fy ysbrydoli i wneud y goeden deulu yma,” meddai a hynny ar drothwy pennod newydd wrth i ysgol gynradd Cwrtnewydd gau ac uno â Llanwnnen a Llanwenog yn Ysgol Dyffryn Cledlyn ym mis Medi.
Y teulu
Bu’n dipyn o waith i hel y deunydd ynghyd a llunio’r goeden, yn ôl Emyr Rees, a ddywedodd ei fod wedi treulio dipyn o amser “yn siarad ar y ffôn yn casglu’r enwau a’r dyddiadau.”
Mae’r stori’n dechrau gyda hen, hen, hen fam-gu a thad-cu Emyr Rees, sef David ac Elizabeth Davies fu’n byw ym Mhenlan Fach.
“Mi gawson nhw bedwar o blant, ac o blant y rheina ac i lawr ac i lawr mae o leiaf 73 wedi bod yn ddisgyblion yn ysgol Cwrtnewydd ers hynny.”
Yn eu plith mae teulu Tanrhos a theulu Hatchers, Gorsgoch – ac esboniodd Emyr Rees ei fod wedi cofnodi enwau a dyddiadau geni’r plant i gyd.
Cadw’r hanes yn fyw
Wrth i’r ysgol gau ei drysau ddydd Gwener (Gorffennaf 21), dywedodd Emyr Rees ei fod yn teimlo’n “eitha’ trist, ond mae’n rhaid symud gyda’r oes.”
“Roedd gwneud y goeden deulu yn rhywbeth tamed bach yn wahanol, mae sawl un wedi dweud eu bod nhw’n ei hoffi; mae’n rhywbeth mwy quirky na choeden deulu arferol,” meddai.
“Gobeithio bydd e’n helpu i gadw’r hanes am yr ysgol yn fyw.”