Teilwng yw’r Oen yn mynd i Lundain

Mae tri o gorau Ceredigion gan gynnwys côr Corisma o Gwmann wedi cael gwahoddiad i berfformio yn Llundain ym mis Hydref eleni.

Fe fyddan nhw’n mynd â’r cynhyrchiad Teilwng yw’r Oen ar daith yng nghwmni côr Cardi-gân o Ddyffryn Aeron a Meibion y Mynydd o ardal Ponterwyd.

“Doedden ni ddim wedi meddwl y bydden ni’n cael cyfle i deithio’r perfformiad, ond mae’n amlwg wedi cydio yn nychymyg pobol,” meddai Dwynwen Llywelyn, Cyfarwyddwr Theatr Felin-fach wnaeth lwyfannu’r perfformiad ym mis Ionawr.

‘Rhannu ymhellach’

 Y cerddor Rhys Taylor o Aberystwyth fu’n gyfrifol am gyfarwyddo a gosod trefniant cerddorol i’r perfformiad oedd yn cynnwys yr unawdwyr Deiniol Wyn Rees o Bencader a Non Williams o grŵp Eden.

“Llwyddiant y prosiect dw i’n meddwl yw ei fod yn cynnwys corau a cherddorion o’r gymuned yn ogystal â chantorion proffesiynol,” meddai Dwynwen Llywelyn.

Esboniodd fod y gwahoddiad i deithio i Lundain wedi dod yn dilyn sgwrs â gweinidog Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Robert Nicholls.

“Mae’n gyfle i rannu ein gwaith ymhellach, ond bydd angen gwneud tipyn o waith nawr i godi ymwybyddiaeth yn Llundain er mwyn gwerthu’r tocynnau,” meddai.

Mae’r perfformid yn cael ei gynnal ar 21 Hydref 2017 yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain am 7.30yh.

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *