Taith gerdded Dydd Sant Steffan

Cawsom ddiwrnod sych ar gyfer taith flynyddol Clwb Cerdded Pencarreg, gyda naw o drigolion yn elwa.

Y nod eleni oedd ymweld â GWYLFA cyfeirnod grid SN 56328-41242 sydd yng nghanol coedwig ger Allt-y-mynydd, ond oedd flynyddoedd yn ôl yn rhan o Fanc Garregwinau; yma hefyd oedd mynydd fferm Llwyndrysi.

Cawsom ychydig o hanes pwrpas yr adeilad gan Evan Davies Evans, un o’r cerddwyr. Lle oedd hwn i wylio a rhoi gwybodaeth am awyrennau yr Almaen oedd yn hedfan i mewn drwy Sianel Sant Sior ar eu taith i fomio Dinas Lerpwl. Y gwylwyr yn rhoi gwybod i safle amddiffyn cartref yn Nhowyn Sir Feirionydd, a hwy yn eu tro yn cysylltu â Lerpwl er amddiffyn a gwarchod y ddinas honno.

Allan o’r goedwig a gwneud cylchdaith o amgylch Pen-tas-eithin sydd 415m uwch y môr. Cerdded heibio hen adfail ffermdy Pant-y-crwys, a nepell oddi yma dod i Geunant Afon Marlais lle darganfyddwyd corff Miss Hanah Davies o Dangar Plwyf Pencarreg yn 1829.

Ar yr un hewl mae ffermdy Cefn-Blaenau lle bu y cymeriad hanesyddol hwnnw sef Thurow Craig a’i wraig Anne-Marie {Mitzi} yn byw am flynyddoedd, pentrefwyr Parc-y-rhos yn eu cofio yn marchogaeth i’r dre bob dydd Gwener. Daeth y gŵr hwn o Ddyffryn Meifiod i fod yn farchogwr arbennig, ie Gaucho yn wir, cyn symud ymlaen i fod yn forwr yn y llynges yn y ddau ryfel byd. Wedi hynny bu yn awdur llyfrau ac yn golofnwr i bapur Sul y Sunday Express. Methu gweld olion hen dŷ Pant yr yrfa ond gweld a chlywed Nant, Nant yr yrfa yn sisial a nentydd Ceiment a Rhyd-y-mwyn hefyd. Y nentydd yma ochr dde Plwyf Pencarreg yn llifo i Afon Marlais am Lansawel a basin Afon Cothi.

Cadw at ein cylchdaith heibio fferm Maes-llan a gweld ar y dde Mast cyfathrebu Pencarreg a rhan o’r mynydd a elwir yn Pen-tas-eithin, darllenwch Hanes Plwyf Pencarreg gan Ffermwyr Ifanc Cwmann am fwy o hanes, gweld oddi yma Bannau Sir Gâr a Bannau Brycheiniog. Heibio olion fferm Victoria Park a dod i olwg braster Dyffryn Teifi a thu hwnt, gweld Sir Benfro a Meirionydd ar ddiwrnod clir. Cyrraedd olion tŷ Blaeb-bydernin, yr hewl fel pin gwallt yma, cerdded yn ôl heibio Pant-y-ffin a nôl dros Fanc Cerrig Peithyn am ein ceir.

Dyna ychydig o hanes Mynydd Pencarreg a thaith gerdded bleserus iawn, eich gweld ymhen blwyddyn.

Comments
  1. Emyr Lyn

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *