Taith Ddirgel Shiloh, Soar a mwy!

Roeddwn i wedi clywed fod tripiau blynyddol Cymdeithas Ddiwylliadol Shiloh a Soar Llambed yn denu llond bws, ac yn llwyddo i ddenu rhai o eglwysi ac o enwadau y tu allan i gylch yr eglwysi y bwriadwyd y gymdeithas. Pan wnaeth Twynog Davies, y trefnydd a’r tywysydd, fy annog i ddod gyda nhw ar y trip eleni, gan ddweud y byddwn i’n siŵr o joio oherwydd bod un elfen o’r daith yn cynnwys rhywbeth i’w wneud ag emynau, doedd dim rhaid iddo gynnig yr eilwaith!

Taith ddirgel oedd hi eleni, ddydd Iau, 18 Mehefin, ac yn rhyfeddol, fe lwyddodd Twynog i’n cadw ni gyd yn y tywyllwch! Wrth i’r bws gyrraedd Aberaeron, fe’n twyllodd drwy ddweud ein bod yn anelu am y gogledd a taw stop gynta’r daith fyddai paned ym Machynlleth. Dychmygwch y syndod felly wrth inni droi ger Cae Sgwâr Aberaeron a bwrw am y de!

P’run bynnag, y stop cyntaf (go iawn nawr!) oedd capel Blaenannerch. Yno i’n croesawu roedd dyrnaid o’r aelodau a’r gweinidog, y Parchedig Llunos Gordon. Cawsom hanes rhyfeddol Evan Roberts a Diwygiad 1904-05 gan Mair Davies, ac roedd ei chyflwyniad2015-06-18 09.42.30ac hwyliog a didwyll yn werth ei glywed. I’r sawl nad yw’n gwybod yr hanes, yng nghapel Blaenannerch ar 29 Medi 1904 cafodd Evan Roberts brofiad ysbrydol ysgytwol, a dyma ddechrau ar Ddiwygiad 1904-05 a ysgubodd trwy Gymru gyfan, a’r tu hwnt. Rhaid oedd canu dau emyn, wrth gwrs – Y Gŵr wrth Ffynnon Jacob ac Ysbryd y Tragwyddol Dduw – cyn i ni gael ein tywys i’r festri. Diolch i’r aelodau am baratoi te a choffi i ni gyd. Cawsom hefyd gyfle i grwydro’r fynwent a gweld bedd y cyn Archdderwydd a’r amaethwr Dic yr Hendre.

2015-06-18 11.31.08O Flaenannerch i Aberteifi ac ymweld â Chastell Aberteifi. Diolch i’r swyddog fu’n ein tywys o gwmpas yn rhoi peth o’r hanes i ni. Roedd hi’n agoriad llygad gweld yr holl waith sydd wedi bod ar y safle, ac mewn gwirionedd, doedd awr ddim yn ddigon i werthfawrogi popeth oedd ar gael i ni fel ymwelwyr. Os ydych chi’n chwilio am rywle i fynd yr haf ’ma, ewch i Gastell Aberteifi i ddysgu mwy am ein hanes.

Picnic ar y bws, er mwyn arbed amser (top tip!), ac yna anelu am Gastellnewydd Emlyn, a mynd trwy gefn gwlad godidog sir Gaerfyrddin nes cyrraedd Y Gangell. Dyma gartref yr emynydd 2015-06-18 13.22.56Elfed (1860-1953), awdur yr emynau ‘Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano’, ‘Yr Arglwydd a feddwl amdanaf’, ‘Arglwydd Iesu, dysg im gerdded’, a llawer mwy. Yno i’n cyfarfod roedd Elsbeth Page, gwraig leol sydd wedi’i thrwytho yn hanes Elfed. Cawsom fynediad i’r bwthyn bach dwy stafell, a rhyfeddu at gyn lleied o le oedd gan y teulu hwn o bump ar y pryd. O’r Gangell, dilynon ni Elsbeth Page i gapel Blaen-y-coed a chael rhagor o hanes yr emynydd, y bardd a’r pregethwr. Cafodd Huw Jenkins gyfle hefyd i rannu ambell atgof oedd ganddo o Elfed ar ddiwedd ei oes yng Nghaerdydd.

Wrth anelu am Gaerfyrddin a gwybod bod gennym un stop arall, roedd y dirgelwch yn para! Aethom am Gross Hands, ymuno â’r M4 yn Pont Abram, troi bant am Lanelli … a chyrraedd Parc y Scarlets! (Roedd opsiwn hefyd i’r rhai nad o2015-06-18 16.54.08edd am gael taith o’r stadiwm, ac rwy’n siŵr fod Parc Trostre wedi elwa o ymweliad y dyrnaid a aeth i siopa!) Aeth Nia Lloyd, swyddog sy’n gweithio i’r Scarlets, â ni o gwmpas y stadiwm. Roedd hi’n agoriad llygad gweld y stafelloedd moethus sy’n bosib i’w llogi i wylio gêm a mwynhau peint neu ddau neu chwech mewn steil! Roedd dau dractor yn gweithio ar y cae, ac roedd hi’n ddirgelwch i’r rheini ohonom sy’n gyfarwydd â’r byd ffarmio a thrin y tir beth yn gwmws roedden nhw’n ei wneud ar y cae.

Roedd hi’n amser bwyd eto ymhen dim, ac fe gawsom ni ein digoni yn y Bridge Inn, Llangennech. Gwledd o ginio rhost am bris eithriadol o resymol. Roedd y bws yn dipyn tawelach wedyn ar y ffordd adre – pawb wedi cael eu gwala mewn mwy nac un ffordd.

Diolch i Twynog am drefnu taith lawn ac amrywiol, a diolch bawb am gwmni difyr a hwyliog.

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *