Taith Cymdeithas Ddiwylliannol Bethel Parcyrhos

Daeth blwyddyn hapus iawn llywyddiaeth  Mrs Elma Phillips i ben Sadwrn 6ed o Fai gyda thaith i ardal Llanelli. Mae ‘na dair ffordd y gallwn deithio o Gwmann i Lanelli. Mae’r daith drwy Cydweli ychydig yn ddieithr, ond yn cynnig llawer. Prif atyniad oedd ymweld â Phlas Llanelli neu Tŷ Llanelli yng nghanol y dref ger Eglwys hynafol Sant Elli.

Daeth Tŷ Llanelli i’r amlwg drwy y Teulu Stepney. Yn wreiddiol daeth y Stepney’s o ardal Stepney Llundain, a daeth y teulu Cymreig i fodolaeth drwy i Alban Stepney, cyfreithiwr ifanc, ddod i Sir Benfro a phriodi merch stad Pendergast Hwlffordd. Gyda threigl amser priododd Sir Thomas Stepney a merch teulu y Vaughan o Lanelli a dod i berchnogaeth y tŷ. Cawsom ein tywys o amgylch y tŷ newydd o gyfnod Sioraidd a gweld moethusrwydd y cyfnod, ac roedd casgliad llestri gydag arfbais y teulu yn denu’r llygad, ac wedi ei gwneud yn Seina.

Teithio yn ôl am ymweliad byr â Phorth Tywyn i weld Colf Goffa Amelia Earhart yn Heol Stepney. Hon oedd y ferch gyntaf i deithio mewn awyren ar draws yr Iwerydd o UDA. Disgynnodd yr awyren ar gulfor o ddŵr yn morydd Porth Tywyn ganol dydd Mehefin 18 1928, yna yn 1932 hedfanodd Amelia ar phen ei hyn ar draws yr Iwerydd. Mae Porth Tywyn wedi tyfu ar draul Penbre, gan fod porthladd Penbre yn anaddas i longau hwylio mawr felly adeiladwyd porthladd newydd yn nes at Lanelli a’i alw yn Porthladd Newydd Penbre, ond maes o law cafodd enw newydd. Ymhen amser tyfodd pentre o amgylch yr harbwr a daeth enw Porth Tywyn i fodolaeth. Roedd yn yr harbwr gatiau er mwyn cynnal dyfnder  a’r drai’r llanw, fel bod llongau mawr yn medru llwytho glo unrhyw amser o’r dydd.

Mae pawb wedi clywed am y diweddar Ray Gravell, unai drwy ei orchestron gyda’r bêl hirgron neu ar raglenni ar radio Cymru a theledu. Felly dyma droi am bentref Mynydd-y-garreg a lan ger yr Ysgol Gynradd mae Carreg Goffa i Ray; ie lleoliad arbennig i Gawr o Gymro. O leoliad y Garreg Goffa cawn olygfa arbennig o bentref Mynydd-y-garreg a thref Cydweli ac aber y Gwendraeth Fach. Yn yr ardal yma cawn hanes am Faes Gwenllian sydd nepell o Gastell Cydweli lle ymladdodd y Dywysoges Gwenllian gyda byddin y Deheubarth yn erbyn byddin y Normaniaid yn 1136.

Gyda hyn roedd yn amser swper a theithio nôl am Y Talardd Llanllwni i groeso John ac Ann. Talodd Elma air cynnes o ddiolchgarwch i bawb am gydweithio hapus dros y tymor a throsglwyddo’r llywyddiaeth i ddwylo medrus ifanc Dylan Lewis, gyda Mrs Mary Davies yn Is-lywydd.

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *