Siân Elin yn Meithrin Talent

gan Daniel Davies
Sian Elin yn diddanu’r plant yng Ngŵyl Canol Dre Caerfyrddin.
Sian Elin yn diddanu’r plant yng Ngŵyl Canol Dre Caerfyrddin.

Mae Siân Elin Williams o Bencarreg wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth ‘Meithrin Talent – Talent Meithrin’ ac mi fydd yn perfformio yng Nghaerdydd yn Eisteddfod yr Urdd wythnos nesaf.

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd ar safle Sioe Llanelwedd y llynedd fe lansiodd Mudiad Meithrin a’r Urdd gystadleuaeth newydd ar y cyd gyda’r nod o ddod o hyd i dalent newydd i ddiddanu plant ifanc rhwng 2-4 oed a’u rhieni.

Meddai Iola Jones, Pennaeth Tîm Cyfathrebu a Phartneriaethau Mudiad Meithrin:
“Roeddem fel Mudiad yn awyddus i ddod o hyd i dalent newydd i ddiddanu plant ifanc iawn, yn y gobaith o ddod o hyd i dalentau newydd fyddai’n addas i gynnal Taith Gŵyl Dewin a Doti (sy’n daith tair wythnos o hyd) yn y dyfodol. Felly dyma greu partneriaeth gyda’r Urdd i gynnal y gystadleuaeth yma ar y cyd.”

Mae cystadleuaeth ‘Meithrin Talent – Talent Meithrin’ yn agored i aelodau’r Urdd rhwng 18-24 oed. Fe agorwyd y broses gystadlu fis Medi y llynedd hyd ddiwedd Rhagfyr gyda’r ymgeiswyr yn llenwi ffurflen gais, anfon portffolio yn amlinellu eu profiad a chreu clip fideo 5 munud o hyd i ddweud ychydig am eu hunain ac i ddangos eu dawn perfformio.

Sian Elin yn perfformio gydag aelodau CFfI Cwmann.
Sian Elin yn perfformio gydag aelodau CFfI Cwmann.

Y ddwy ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yw Siân Elin a Lois Glain Postle o Fodedern, Môn. Ddiwedd Ebrill fe dderbyniodd y ddwy ddiwrnod o hyfforddiant a mentora yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd yng nghwmni Martyn Geraint sy’n hen law ar berfformio i blant ifanc.

Meddai Siân Elin:

“Rwy’n edrych ymlaen i ddiddanu plant yn yr Eisteddfod ac mae’n fraint i gyrraedd y ffeinal. Pa bynnag ffordd yr eith hi Ddydd Sadwrn, rwy’n falch iawn o’r cyfle mae’r Urdd a’r Mudiad Meithrin wedi roi i mi gan fy mod wrth fy modd yn diddanu.”

Diwedd y daith i’r ddwy fydd y cyfle i berfformio mewn amryfal leoliadau ar hyd maes Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019 ddydd Sadwrn 1 Mehefin, gyda’r panel beirniaid yn eu beirniadu ar safon eu perfformiad a’u dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa, a chyfle i berfformio mewn un sioe ar daith Gŵyl Dewin a Doti fydd yn cael ei chynnal o 10 – 29 Mehefin eleni.

Meddai Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd:

“Dechrau’r daith perfformio yw Eisteddfod yr Urdd i lawer ac felly rydym yn falch iawn i allu cynnal y gystadleuaeth newydd hon yn yr Eisteddfod eleni. Dyma gyfle gwych i gystadleuwyr yr Urdd gael ehangu ar eu cyfleoedd perfformio ar hyd a lled y maes i gynulleidfa amrywiol.”

Cyhoeddir enw’r enillydd ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd 2019 gan dderbyn gwobr ariannol o £300 a’r cyfle i berfformio mewn sioe yng Ngŵyl Dewin a Doti Mudiad Meithrin yn 2019. Bydd yr ail yn y gystadleuaeth yn derbyn £200.

Bwriedir cynnal y gystadleuaeth yma ar y cyd eto y flwyddyn nesaf.

Gofynnir i Sian Elin a Lois Glain wneud perfformiadau o 10 munud yr un ym mhob un o’r 3 lleoliad isod ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd, ddydd Sadwrn 1 Mehefin.  Cofiwch fynd i’w cefnogi.

Perfformiad 1 – Llwyfan y Lanfa, Canolfan y Mileniwm.

(Slot rhwng 11:00 – 11:30)

Perfformiad 2 – Uned y Mudiad Meithrin (tu allan i Ganolfan y Mileniwm)

(Slot rhwng 13:00 – 13:30)

Perfformiad 3   – Llwyfan Allanol S4C (Y Basn yn y Bae)

(Slot rhwng 14:30 – 15:00)