‘Pryderon’ am ganol tref Llanbed

Mae gan drigolion Llanbedr Pont Steffan bryderon ynghylch dyfodol canol y dref, meddent wrth Clonc360.

Wedi’r newyddion y bydd y ganolfan prawf gyrru yn cau yfory, mae rhagor o ofid am sefyllfa ansicr y brifysgol, a hefyd effaith y dirywiad ar bobl hŷn a phobl fregus y gymdeithas.

Dirywiad y Brifysgol

Meddai un fenyw 91 oed o Gaio wrth Clonc360 ei bod yn ofni y bydd gwasanaethau eraill yn cael eu torri yn sgil y colledion hyn, a hithau’n ddibynnol ar fws sy’n mynd i Lanbed ddwywaith yr wythnos.

Cysylltodd hi’r dirywiad cyffredinol yn Llanbed â dirywiad y brifysgol, gan nodi ei bod hi wedi sylwi ar ostyngiad yn nifer y myfyrwyr o amgylch y dref ers peth amser. Byddai colli’r Brifysgol yn ‘ergyd anferthol’, meddai, gan fod cynifer o agweddau ar fywyd y dref yn ddibynnol ar bresenoldeb myfyrwyr.

Ychwanegodd fod yna falchder o hyd yn y ffaith mai dyma brifysgol hynaf Cymru, a bod hynny’n dwysáu’r gofid ynghylch ei sefyllfa.

Nododd rhai fod hyn yn rhan o duedd cyffredinol at ganoli gwasanaethau mewn ardaloedd trefol mwy, megis Aberystwyth a Chaerfyrddin, gan adael pobl cefn gwlad i ofalu am eu hunain, i raddau helaeth.

‘Esgeuluso’ pobl fregus

Yr argraff gyffredinol a gafwyd oedd bod pobl fwyaf bregus y gymdeithas yn cael eu heffeithio fwyaf gan y newidiadau. Cyfeiriodd eraill at sefyllfa trefi gwledig eraill megis Tregaron a Llanymddyfri sydd heb fanc bellach, yn rhannol oherwydd y symudiad tuag at fancio ar-lein.

Cyhuddwyd yr Awdurdodau Lleol o beidio â bod yn ddigon rhagweithiol wrth gynnig cymorth i’r bobl sy’n cael eu heffeithio waethaf gan y colledion i wasanaethau, ac er bod cymorth ar gael, megis gostyngiadau treth cyngor i bobl hŷn, ar bobl hŷn eu hunain y mae’r cyfrifoldeb i drefnu’r materion hyn, sy’n gallu bod yn gymhleth a dyrys.

Er bod 3 banc o hyd yn Llanbed, bu i fanc Natwest gau yn ddiweddar, ac mae pobl yn anobeithiol y gall y dref osgoi rhannu eu ffawd, yn enwedig oherwydd dyfodol ansicr y brifysgol.

Dywedodd menyw 82 oed nad yw hi’n bancio ar-lein, ac ni fyddai’n hyderus y gallai ddysgu sut i wneud hynny heb gymorth ac arweiniad.

Soniodd eraill fod siopau’n agor yn weddol aml, ond maent yn dueddol o gau yn fuan hefyd, gan grybwyll bod pobl ifanc, yn ogystal â gwasanaethau, yn symud i ffwrdd i ardaloedd trefol neu ddinesig mwy.

Angen ‘buddsoddiad sylweddol’

‘Proses raddol’ yw hon meddai un, ac ni fydd yn newid oni bai am fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal. Heb niferoedd cadarn o bobl sy’n weithgar yn economaidd, bydd y pwysau ar wasanaethau yn ‘anochel’.

Ni fynegwyd llawer o obaith at y dyfodol, ac mae trigolion y dref yn ymwybodol iawn o ba mor fregus yw gwasanaethau cyhoeddus trefi gwledig Cymru yn gyffredinol, yn enwedig wrth i’r hinsawdd wleidyddol ac economaidd argoeli troi’n fwy ansicr byth wrth i Brydain baratoi at adael yr UE.

Gweithredu

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ben Lake, “[m]ae Llanbedr Pont Steffan yn dref ag iddi hanes balch, ond mae’n dref sy’n llawn potensial hefyd… . Mae’n amlwg bod y gymuned leol yn awyddus i weithio gyda’i gilydd i oresgyn yr heriau niferus sy’n wynebu’r dref, ac i warchod y rhinweddau pwysig hynny sy’n unigryw i’r dref”.

Galwodd gyfarfod yn Llanbed ar 26 Gorffennaf er mwyn clywed syniadau creadigol, ymarferol ac arloesol gan y gymuned ar gyfer y dref, a daeth dros 70 o berchnogion busnes lleol ynghyd.

Yn y cyfarfod hwnnw, codwyd y pwysau ar Lanbed, a threfi marchnad eraill, yn sgil cystadleuaeth y we, datblygiadau all-drefol a newid i arferion siopa.

Tri thuedd cymdeithasol ar waith

Clywyd bod tri thuedd mawr ar waith yn y gymdeithas sy’n peri newid heriol i’r dre:

–          newid demograffig

–          ehangiad ardaloedd trefol mawr a dinesig

–          datblygiadau technolegol.

I fynd i’r afael â’r rhain, cynigiwyd cyflogi Rheolwr Canol Tref Digidol ar gyfer Llanbed er mwyn hybu presenoldeb a amlygrwydd busnesau’r dref ar y we.

Syniad arall oedd llunio Strategaeth Ganol Tref ar gyfer Llanbed a fyddai’n gosod nodau clir a chynllun ar gyfer gweithredu.

Cyfeiriwyd at Aberteifi fel enghraifft lwyddiannus o adfywio trefol mewn hen dref fasnach, a nodwyd bod sawl safle diwylliannol a threftadaeth o bwys yn Llanbed y gellir manteisio arnynt.

Bydd cyfres o straeon yn cael eu cyhoeddi ar Clonc360 yn dilyn y materion sydd wedi codi yn yr erthygl hon.

 

 

Comments
  1. W Davies

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *