Penwythnos Dartiau Cyntaf Llambed

Bedwyr Davies
gan Bedwyr Davies

Dros y penwythnos fe wnaeth Clwb Rygbi Llambed a thîm hybu lleol “Bishop of Bedlam” gynnal penwythnos dartiau cyntaf yn y dref. Ar y nos Wener aeth cyn bencampwr y byd Dennis “Y Menace” Priestley a chyn rhif 1 y byd Peter “One Dart” Manley. Yn arwain y nosweth oedd y sylwebydd dartiau a phêl-droed John Gwynne. Daeth pobl o dros dde Cymru ond rhaid diolch yn fawr iawn i’r pedwar a ddaeth o’r Alban i wylio; daeth John Taylor o gwmni “Pies R Us” dod â’i peis enwog yr holl ffordd o Kelso a gwerthodd dros 260 o’i peis, cheeseburger a stêc a haggis. Cafodd llawer o’r gemau eu chware yn erbyn y chwaraewyr enwog a hefyd codi arian trwy raffl ac ocsiwn; codwyd £450 i Ambwlans Awyr Cymru, a bydd Banc Lloyds yn dwblu’r swm trwy gynllun punt wrth bunt y banc.

20160507_145641

Ar y dydd Sadwrn daeth chwaraewyr o dros y wlad i chware cystadlaeth agored yn y Clwb gyda dros £600 i’w ennill. Enillydd y dydd oedd Steve Evans o Machynlleth yn curo Kevin Thomas o Abertawe 6 goes i 2 yn y rownd derfynol. Colli yn y rownd cyn derfynol wnaeth Aled Goode o Aberhonddu a Jeff Thomas o dde Cymru. Enillydd yr “Highest Out” oedd Kevin Thomas gyda 164 a chyn enillwyr y coes o darts gorau oedd Martin Thomas o Aberystwyth a Bedwyr Davies o Gwmann, gyda choes o darts yn 11 darten.

20160506_230155

Hoffwn ddiolch i noddwyr y penwythnos, Castle Bookmakers Limited, Geraint a Pearl Williams Garej Rhosybedw Ffaldybrennin, Saer Coed James Davies Llanybydder, Richard Jarman True Wealth Financial Management Aberteifi, Ffensio Davies a Jenkins, Clwb Peldroed Llanbed, Cegin Gwennog a Teiars Huw Lewis. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth.

Y bwriad yw cynnal penwythnos dartiau yn flynyddol.

received_10153411892137172  IMG-20160507-WA0018