Oes angen cyfieithydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus?

Nos Iau hyn bydd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn pleidleisio ar y mater o ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn eu cyfarfodydd misol.

Trosol

Hwylustod cyfieithu ar y pryd. Llun gan Gwmni Trosol.

Bu cryn ddadlau yn y cyfarfod diwethaf gyda rhai cynghorwyr o blaid cael cyfieithydd yn bresennol mewn cyfarfodydd o ran egwyddor, ac eraill yn chwyrn yn erbyn oherwydd y costau.

Mae’n bwnc llosg i lawer o gynghorau ar hyd a lled Cymru.  Pam ddylid cynnal cyfarfodydd cyhoeddus drwy’r Saesneg mewn ardaloedd Cymraeg fel Llanbed?  Y gwir yw, yn ôl rhai, os na ellir cynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn Gymraeg mewn ardaloedd Cymraeg yn y gorllewin, does dim llawer o obaith i ardaloedd eraill.

Mae nifer o gynghorau cymuned yr ardal, yn enwedig y rhai gwledig, yn parhau i gynnal cyfarfodydd cyfan drwy’r Gymraeg.  Ond eraill yn ei chael hi’n anodd oherwydd presenoldeb cynyddol pobl ddi-Gymraeg sy’n mynychu cyfarfodydd.

Cyngor Tref Llanbed

Cyngor Tref Llanbed

Llanfair Clydogau – Saesneg

Llanllwni – Cymraeg

Llangybi – Dwyieithog

Llanwenog – Cymraeg

Llanwnnen – Cymraeg

Llanybydder – Saesneg

Pencarreg – Cymraeg

Dywedodd Gwennan Jenkins, Clerc Cyngor Cymuned Llanwenog bod eu cyfarfodydd yn Gymraeg ond bod rhaid iddynt ddarparu cofnodion dwyieithog.

Roedd Y Cynghorydd Sir Eirwyn Williams yn ymfalchïo bod nifer o gyfarfodydd cynghorau cymuned y byddai ef yn mynychu dal i gwrdd drwy’r Gymraeg fel Pencarreg, Cynwyl Gaeo, Llanycrwys a Llansawel.

Pwysleisiodd y Cynghorydd Sir Odwyn Davies wrth Clonc360 bod Cyngor Llangybi yn darparu cofnodion dwyieithog hefyd a bod y rheiny ar gael ar wefan y cyngor cymuned.

Ar y llaw arall mae Cyngor Llanfair Clydogau wedi gorfod troi i’r Saesneg er mwyn cynnwys y di-Gymraeg sy’n mynychu cyfarfodydd.  Teimla rhai bod hyn yn anfantais i’r Cymry Cymraeg sy’n gynghorwyr oherwydd eu bod yn gorfod trafod materion lleol mewn ail iaith.  Gyda chynghorau gwledig fel hyn, mae cyflogi cyfieithydd yn amhosib ar y gyllideb bresennol.

Saesneg yw iaith cyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanybydder hefyd ers sawl blwyddyn, ond bod cynlluniau ar droed i ddarparu cofnodion dwyiethog ar wefan y cyngor maes o law.

Ond beth am Gyngor Tref Llanbedr Pont Steffan?  Ydy’r cynghorwyr tref yn mynd i arwain y ffordd nos Iau a chytuno i ddarparu cyfieithydd?  Gall y cyngor ymfalchïo bod mwyafrif y cynghorwyr yn siaradwyr Cymraeg rhugl.  Yr hyn sy’n gwneud pethau’n anodd credu, yw bod rhai o’r cynghorwyr hynny yn erbyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.  Pa arweiniad yw hynny i weddill y cymunedau boed yn Gymry Cymraeg neu’n ddi-Gymraeg?

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *