Mamis Mentrus yn mentro i Aberystwyth

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Rydym yn grŵp o famau o ardal Llanbed/Llandysul sydd yn creu a gwerthu amrywiaeth o eitemau, ac wedi ymgasglu i greu menter Mamis Mentrus.

O ddillad, bows gwallt, anrhegion wedi eu personoli  i grochenwaith gyda phrintiau traed a dwylo, gwrthrychau Scentsy i’r cartref a ffyj blasus.

Sut dechreuodd Mamis Mentrus?

Dechreuodd y cyfan nôl ym mis Ebrill. Roedd tair ohonom wedi trefnu bore siop pop up yn Nhregaron. Wrth setio fyny fe wnaeth Alex a Becky grybwyll pam se’n ni yn chwilio am fwy o fusnesau i ymuno â ni a dechrau grŵp o Mamis i deithio hyd a lled y wlad yn gwerthu ein nwyddau.

O fanna fe wnaeth bethau symud yn go gyflym. Roedd gyda ni enw, logo a thudalen Facebook o fewn 24 awr ac roedden ni wedi trefnu ein digwyddiad cyntaf o fewn mis yn Aberteifi. Nelon ni gysylltu gyda phobl roedden ni yn adnabod i ymuno â ni – busnesau bach oedd yn cynnig amrywiaeth i sicrhau fod pob stondin yn wahanol.  Ers hynny, mae cynrychiolaeth ohonom wedi bod yn Aberteifi, Machynlleth, Aberaeron, Llanbed, Llandeilo ac Aberystwyth.

Bwriad Mamis Mentrus? 

Ein bwriad yw gweithio fel tîm i ddod â‘r holl fusnesau bach ynghyd.  Mae cynlluniau gyda ni i gynnal digwyddiadau y bydd yn cefnogi busnesau, canolfannau teuluol/cylchoedd meithrin ac elusennau lleol er mwyn helpu iddynt godi arian.

Trwy ddod â’r holl fusnesau bach ynghyd o dan yr un to a chynnig gweithgareddau i ddiddanu plant…rydym yn gobeithio cynnig profiad siopa hwylus i rieni â phlant.

Ar lefel bersonol, mae bod yn rhan o Mamis Mentrus yn gyfle gwych i gymdeithasu gyda phobl sydd ar un meddylfryd â chi. Ni gyd yn caru ein busnesau bach ac am lwyddo.  Ni’n cefnogi ein gilydd hefyd. Dydyn ni byth yn styc rhagor pan fod angen anrhegion!!!

Ni’n lwcus iawn o’r gefnogaeth rydym wedi derbyn gan bobl leol, ein teuluoedd, ffrindiau a’n holl gwsmeriaid. Mae pawb wedi bod yn gefnogol tu hwnt.

 

Y Bandstand, Aberystwyth

Roedd y croeso cynnes ar gefnogaeth cawsom gan bobl Aberystwyth nôl ym mis Awst yn y Bandstand yn arbennig, felly ar ddydd Sadwrn Hydref 19eg, fe wnaethom gynnal siop pop up am yr ail dro yno.

Roedd gennym bum stondin Mamis Mentrus ac roedden ni wedi gwahodd Crefftau’r Bwthyn i ymuno gyda ni am fod Glesni o ardal Aberystwyth a Catrin Eleri i wneud sesiwn ffotograffiaeth gyda’r plant.

Er gwaetha’r tywydd ofnadwy yn y bore, cawsom ddiwrnod bendigedig ac fe welsom lawer o bobl yn ystod y dydd.  Byddwn ni nol eto yn y flwyddyn newydd, ond yn y cyfamser mae Mamis Mentrus yn mynd ar daith Nadolig ac yn ymddangos mewn ffeiriau Nadolig amrywiol ar hyd a lled Ceredigion.

Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook am fwy o ddigwyddiadau a chystadlaethau.

Dyma stori gan Caryl Davies ar gyfer gwefan fro Clonc360. I rannu eich stori leol chi, y cam cynta yw cofrestru fel ‘brodor’ yma: https://clonc360.cymru/register/