Llysgenhadaeth Ariannin yn Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Morfudd yn rhan o Orsedd y Wladfa
Morfudd yn rhan o Orsedd y Wladfa

Y diddanwr Gary Slaymaker sy’n dweud bod Llysgenhadaeth Ariannin yn Llanbed, ac yn fwy penodol yn Yr Heniarth sef cartref ei fam, Morfudd Slaymaker.

Morfudd yw ‘Cymeriad Bro’ Papur Bro Clonc y mis hwn. Yn wreiddiol o Bencader ond symudodd i fyw yn Lleinau, Cwmann yn bedair oed.  Mae’n fam i ddau o blant sef Gary a Meinir, a’r ddau yn byw yng Nghaerdydd.

Yn athrawes goginio a gwnio barchus yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, roedd enw Mrs Slaymaker yn gyfarwydd i lawer o ddisgyblion dros y blynyddoedd, yn ogystal ag enw Mr Slaymaker gan fod Eric ei gŵr yn athro Cemeg yno hefyd yn ystod yr un cyfnod.

Gabriel Restucha, Ada a Morfudd.
Gabriel Restucha, Ada a Morfudd.

Ond ers ymddeol, mae wedi datblygu cysylltiadau â Phatagonia.  Mae wedi bod ar daith yno ddeg o weithiau ac yn croesawu ymwelwyr niferus o Batagonia i Yr Heniarth yn gyson.

Dywed Isaías Grandis sy’n weinidog yn Nhrefelin, “Mae Morfudd yn wraig gyfeillgar iawn a chroesawgar, ac un sy’n coginio’n arbennig o dda!”

Er mwyn darllen mwy amdani, mynnwch gopi diweddaraf Papur Bro Clonc.  Yn y siopau lleol nawr.

 

6 sylw

Ceris Gruffudd
Ceris Gruffudd

Efallai y gallwn i ychwanegu at y portread o Morfudd sydd yn y rhifyn cyfredol o Clonc. Bu Morfudd yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin o 2001 hyd 2007 a bu hi ac Eric yn groesawgar a chynorthwygar i’r myfyrwyr ddeuai i Lambed ar y cwrs Cymraeg. Fel y gwelir gan rai o’r myfyrwyr isod – roedd yr Heniarth yn gartref oddi cartref i’r myfyrwyr – rhai ohonynt yn ifanc iawn ac wedi teithio yr ochr arall i’r byd. Yn Eisteddfod y Wladfa Hydref 2003 cafodd ei urddo i Orsedd y Wladfa fel ‘Morfudd o’r Llan’ ac yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 cafwyd cyfle i ddiolch iddi. Yn y llun gwelir Cadeirydd ar y pryd Y Fns Sandra De Pol yn cyflwyno blodau i ddiolch i Morfudd Slaymaker am ei gwaith hi ac Eric gyda’r myfyrwyr ddeuai i Lambed.

Dwi yn cofio cyd-deithio ar draws y Paith ar yr un bws a hi un flwyddyn. Roedd y bws yn aros yn Tecka – tref fach ynghanol y paith, 62 milltir o Edquel ar y ffordd i Drelew. Dyma ni yn disgyn oddi ar y bws ac i mewn i’r orsaf betrol i ddefnyddio eu cyfleusterau a chael diod a dyma lais o’r pen draw yn gweiddi – Morfudd! Ceris! Yno ar ei hawr ginio roedd Soraja Williams, Esquel fu yn Llambed ym 1996. Bu Morfudd yn garedig iawn efo hi pan gafodd newyddion

Gladys Jones, Esquel
Gladys Jones, Esquel

Morfudd oedd yn ein mabwysiadu fel ei phlant ei hun, dim bwys beth oedd eich oed chi .!Dyma’r person mwya caredig a welais yn y byd . anodd iawn i’w hanghofio !!!

Walter A. Brooks, Caerdydd erbyn hyn!
Walter A. Brooks, Caerdydd erbyn hyn!

I’r rhai o Batagonia a fu’n ddigon ffodus i ddysgu Cymraeg yn y cyrsiau haf yn Llambed, roedd tŷ’r Slaymakers yn noddfa, yn ‘gartref oddi cartref’, ac rwy’n cofio Morfudd nid yn unig fel ‘modryb’ nodweddiadol –y rhai sydd yn llawn cariad tuag bawb- at ond fel gwir fam Gymreig oedd yn edrych ar ein holau ni i wneud yn sicr bod pawb yn hapus ac yn llawen a phob dim yn ei le. Diolch o galon Morfudd!

Gabriel Restucha, Gaiman
Gabriel Restucha, Gaiman

Pwy yw Morfudd i mi? I’r holl fyfyrwyr fu yn Llambed o Batagonia…hi yw ein modryb!! Roedd wastad yn barod i drefnu ymweliad i rywle, barod i goginio, smwddio, cynghori, siarad… A ninnau yn bell …yn bell o’n cartref ni… roedd yn rhywun oedd yn gofalu amdanom…Tra’n bo ni yn dysgu yr hen iaith… Hi… Morfudd!!!!

Romina Herrera, Trelew
Romina Herrera, Trelew

Morfudd yw un o’r bobl mwyaf caredig a haelionus i mi gwrdd. Mae hi bob amser yn cofio am ei ffrindiau ac yn poeni amdanynt. Yn y dyddiau hyn, er ei bod hi’n haws cadw mewn cysylltiad, mae bywyd yn ruthr ond mae hi’n dal i gofio am bobl Patagonia, a ninnau’ n ddiolchgar iawn i fod yn ffrind iddi hi.

Margarita Jones de Green, Trevelin
Margarita Jones de Green, Trevelin

Cyrhaeddais i Lambed efo pump o ffrindiau eraill i ddysgu Cymraeg yn Ngholeg Llambed yn y flwyddyn 2004. Ar ôl treulio wythnos yng Nghaerdydd yn nghwmni Gwilym Roberts, roeddwn ni yn Maes yr Haf lle cwrddais i am y tro cynta â dynes annwyl, llygaid hyfryd oedd yn ddisgwyl yno efo aelodau eraill Cymdeithas Cymru-Ariannin.

Bu Morfudd yn help mawr i mi fel pawb arall, hi oedd yn estyn croeso i wylio’r teledu, cael cinio Dydd Sul yn ei chartref, hi oedd yn dod pob bore at ddrws Maes yr Haf efo’r post neu efo’r pwdin, mynd a fi i ymweld â ffrindiau ac i weld llefydd hyfryd y Wlad.

Ar ôl dod nôl adre, dw’i wedi cadw mewn cysylltiad efo Morfudd ac wedi cael y cyfle o’i chroesawu hi a’i ffrindiau yma yn Nhrevelin sawl gwaith.

Diolch i Morfudd am ei chyfraniad anhygoel i gymaint o wladfawyr aeth i Lambed dros y blynyddoedd.

Mae’r sylwadau wedi cau.