Llwyddiant Sir, Cymru a dathlu 90 oed

gan Alis Butten

Mae Clwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan wedi cael llwyddiant mawr tymor yma.

Dechreuwyd pan enillwyd cynghrair merched y Sir, heb golli un gêm eleni o dan y Capten Eileen Lloyd. Yn dilyn y llwyddiant, bu nifer o ferched y clwb yn chwarae i dîm y Sir ac eleni am y tro cyntaf erioed fe wnaeth Ceredigion ennill pencampwriaeth Siroedd Cymru, gan faeddu tîm Gorllewin Cymru/Sir Benfro yn y rownd derfynol.

Aelodau Sir Ceredigion

Daeth nifer o’r merched i’r brig mewn cystadlaethau o fewn y Sir gyda Lilian Davies yn ennill y Sengl dros 60; Eileen Lloyd, Dilwen Thomas a Melanie Thomas yn y triawd; Alis Butten, Anita Williams, Melanie Thomas a Anwen Butten yn y rincs.

 Enillwyr y Sir

Yn ogystal â llwyddiant lefel Sir, daeth Llambed i’r brig yng nghystadleuaeth y rinc dwbwl dros Gymru gydag Alis Butten, Sue Jones, Rhian Jones, Carolyn James, Eileen Lloyd, Anita Williams, Melanie Thomas a Anwen Butten yn curo Clwb Caerdydd yn y rownd cyn-derfynol a thîm o Gilfach Bargoed yn y rownd derfynol.

Enillwyr rinc dwbwl Cymru

Enillodd Anwen Butten gystadleuaeth sengl (2 bowl)  Cymru ac enillodd Rhian Jones, Melanie Thomas, Carolyn James a Anwen Butten gystadleuaeth  pedwarau Cymru, a bydd y pedair yn mynd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Prydain Fawr yng Nghaeredin fis Mehefin nesaf.

Yn ystod y tymor mae Rhian Jones, Melanie Thomas, Carolyn James a Anwen Butten wedi chwarae i dîm Cymru a Alis Butten a Melanie Thomas wedi chwarae i dîm o dan 25 Cymru. Hefyd mae Alis wedi chwarae mewn gêm brawf yn erbyn Lloegr yn y tîm o dan 18 Cymru.

Mae hon wedi bod yn flwyddyn lewyrchus iawn i ferched clwb Llanbed eleni. Da iawn ferched!

Hefyd mae’r dynion wedi cael llwyddiant yn ystod y tymor, gan iddynt ennill y gynghrair eleni eto. Yn ogystal â hyn fe wnaeth tîm hŷn y clwb ennill y gynghrair. Enillodd Elfan James a Henry Jones gystadleuaeth 2 bowl parau y Sir ac enillodd Eddie Thomas gystadleuaeth 2 bowl sengl y Sir. Hari Butten a wnaeth ennill cystadleuaeth unigol o dan 18 y Sir, a bu Hari hefyd yn rhan o dîm academi Cymru o dan 21.

Parau 2 bowl y Sir

Mae hi wedi fod yn flwyddyn brysur iawn i un o’n aelodau, sef Llywydd y Sir, Ron Thomas. Cafwyd siawns i Ron ddathlu yn y Clwb gyda’i diwrnod Llywydd, lle bu aelodau’r Sir yn chwarae gêm hwyl.

I goroni’r cyfan, bu Clwb Bowlio Llanbedr Pont Steffan yn dathlu pen-blwydd yn 90 oed eleni; mae hi’n bendant yn mynd o nerth i nerth ar ôl blwyddyn arbennig iawn.

Llongyfarchiadau i ddwy a fydd yn cynrychioli Cymru; Anwen Butten sydd wedi cael ei dewis i fynd i Cyprus ddiwedd mis Tachwedd i chwarae yn y Pencampwriaeth Iwerydd ac i Melanie Thomas a fydd yn mynd i Israel fis Hydref i’r Gemau Ewropeaidd.