Llwyddiant i fuches Clyncoch

Paul a Bryn Williams
(Llun: Holstein UK)

Bridfa Waliswood yn cynrychioli Cymru yng ngwobrau gwledydd Prydain

Mae teulu o Gwrtnewydd wedi cael llwyddiant cenedlaethol yn ddiweddar wrth gynrychioli Cymru yn un o brif gystadlaethau cynhyrchwyr llaeth gwledydd Prydain.

Yr wythnos diwethaf bu teulu fferm Clyncoch yn cynrychioli Cymru ym mhrif gystadleuaeth y fuches bedigri orau gan gymdeithas Holstein y Deyrnas Unedig.

Dros yr haf llwyddodd Paul, Bessie a Bryn Williams i ennill cystadleuaeth y fuches Holstein orau cymdeithas de Cymru – ac yna’r gystadleuaeth drwy Gymru gyfan – cyn parhau i gynrychioli Cymru drwy wledydd Prydain.

Bridfa o’r Alban ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth honno ar Fedi 13, sef bridfa Boclair gan Jack Brewster.

Y teulu’n dathlu ennill drwy Gymru

Ond yn ôl y beirniad a chadeirydd cymdeithas Holstein UK, Andrew Birkle, roedd y saith a ddaeth i’r rownd derfynol yn “haeddiannol iawn.”

‘Tipyn o gamp’

Mae teulu Clyncoch yn godro tua 170 o wartheg Holstein o dan enw eu bridfa – Waliswood.

“Roeddem ni i gyd mor hapus i gynrychioli Cymru, achos mae hynna’n dipyn o gamp yn ei hunan,” meddai Sian gwraig Bryn Williams.

Ychwanegodd y beirniad, Andrew Birkle, fod y gwobrau’n “rhan bwysig o weithgaredd ein haelodaeth, gyda llawer yn perffeithio technegau bridio er mwyn hawlio cydnabyddiaeth a chredadwyedd o fewn y diwydiant.”

“Mae ein prif gystadleuaeth y fuches bedigri orau yn un o’n gwobrau mwyaf adnabyddus ac mae’n denu diddordeb mawr,” meddai. 

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *