Daeth llwyddiant ysgubol i aelodau CFFI Cwmann yn yr Eisteddfod Sir eleni.
Llwyddodd y Clwb i gipio’r drydedd wobr yng nghystadleuaeth y sgets, dawnsio disgo, ac ensemble lleisiol. Cafodd Elan Jones y drydedd wobr yn y gystadleuaeth lefaru dan 16 oed a’r 3ydd wobr hefyd yn yr unawd offerynnol dan 26 oed, tra cipiodd Alpha Evans yr ail wobr yn yr unawd offerynnol dan 26 oed a Beca Jones ac Elan Jones yn llwyddo i gyrraedd yr ail safle yng nghystadleuaeth y ddeuawd dan 26 oed.
Cipiodd Dafydd a Daniel y drydedd wobr am greu llyfr lloffion o weithgareddau’r clwb. Llwyddodd Carys Thomas i ennill yr ail wobr am ysgrifennu sgets wreiddiol a’r clwb yn fuddugol yng nghystadleuaeth y meimio.
Wedi dwy noson a diwrnod o gystadlu brwd a llwyddiannau di-ri, i goroni’r cyfan fe wnaeth Clwb Cwmann orffen yn yr ail safle – arbennig wir.
Llongyfarchiadau i’r holl aelodau a diolch o galon i bawb a fu’n hyfforddi ac a gynorthwyodd mewn unrhyw ffordd. Pob hwyl i’r Meimo ar lefel Cymru yn Llandudno ganol y mis.