Gŵyl y Glaniad cyntaf yn Llanbed

Teulu o Batagonia ar ymweliad â Llanbed yn 2018.

Teulu o Batagonia ar ymweliad â Llanbed yn 2018.

Dethlir Gŵyl y Glaniad yn Llanbed am y tro cyntaf eleni.  Cynhelir  y digwyddiad yng Nghlwb Rygbi’r dref dydd Sadwrn Gorffennaf y 27ain dan ofal Cymdeithas Cymru-Ariannin.

Caiff Gŵyl y Glaniad ei ddathlu yn flynyddol ar Orffennaf yr 28ain, sef y  dyddiad y glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhorth Madryn ar fwrdd llong y Mimosa nôl ym 1865.

Disgwylir rhyw 64 o aelodau’r gymdeithas yn Llanbed gan gynnwys tair myfyrwraig o’r Wladfa sy’n astudio yng Nghymru eleni a phedwar ymwelydd o Batagonia sy’n teithio Cymru dros yr haf.

Morfudd Slaymaker sy’n gyfrifol am letya’r ymwelwyr o Batagonia yn Llanbed dros y penwythnos.  Mae ganddi gyswllt teuluol â’r Wladfa.  Bu ar sawl taith yno ac mae wedi croesawu degau o ymwelwyr i’w chartref yn Llanbed dros y blynyddoedd.

Dywedodd Morfudd “Ma’r peth lleia alla i ‘neud achos ni’n cael shwt groeso mas ‘na bob tro.”

Dathlu Gŵyl y Glaniad ym Mhorth Madryn. Llun: Golwg360.

Dathlu Gŵyl y Glaniad ym Mhorth Madryn. Llun: Golwg360.

Ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin yw Ceris Gruffudd o Benrhyn-coch.  Ceris sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad yn Llanbed ar ran y Gymdeithas.  Dywedodd e “Mae hyn yn beth mawr ym Mhatagonia.  Mae’r trigolion yn dal i ddathlu Gŵyl y Glaniad yn flynyddol ac yn dod ynghyd i gael te a chynnal digwyddiadau i nodi’r achlysur.”

Yma yng Nghymru dathliwyd Gŵyl y Glaniad yn y Bala dros y blynyddoedd oherwydd y cysylltiad cryf sydd yno â Phatagonia, ond cynhaliwyd y digwyddiad mewn mannau eraill hefyd fel Aberteifi ac Aberystwyth.

Braf felly yw croesawu’r digwyddiad i Lanbed oherwydd y cysylltiad cryf o gynnal cyrsiau Cymraeg yn y brifysgol lle mynychodd cymaint o bobl Patagonia er mwyn ail gydio yn yr iaith a’i gloywi.

Yn y digwyddiad yn y Clwb Rygbi ddydd Sadwrn cenir anthem yr Ariannin a derbynnir cyfarchion o Batagonia.  Bydd Nest Jenkins o Ledrod hefyd yno i ddiddanu.  Bu Nest ei hunan ar daith i Batagonia gyda’r Urdd yn 2016.

Dymuniadau gorau i bawb o bell ac agos wrth ddathlu rhan mor allweddol o hanes Cymru ac Ariannin.

Comments
  1. Dylan Lewis

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *