Gwleidydd i ‘gadw llygad arno’

Ben Lake

Gwobr arbennig i Ben Lake o Lanbed

Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi ennill un o wobrau seremoni arbennig yn cydnabod gwaith gwleidyddion o Gymru.

Yn ystod seremoni wobrwyo ITV Cymru enillodd Ben Lake, o Lanbed, y wobr ‘Gwleidydd i Gadw Llygad Arno’.

Mae’n chwe mis bellach ers i Ben Lake gipio sedd Ceredigion oddi wrth y Democratiaid Rhyddfrydol yn ystod Etholiad Cyffredinol mis Mehefin eleni.

Swyddfa yn Llanbed

Roedd beirniaid y gystadleuaeth wedi ei ganmol a hynny gan ddweud bod Ceredigion yn dal i fod yn sedd lle mae ansawdd ymgeisydd unigol yn cyfri’.

Ers hynny mae wedi agor swyddfa ar Heol y Bont, Llanbed ac mae’n rhannu’i amser rhwng ei etholaeth â’r senedd yn San Steffan.

Ac yntau’n ddim ond 24 oed, fe yw Aelod Seneddol ieuengaf Cymru.

Gwobrau eraill

Cafodd yr enillwyr eu dewis gan banel o arbenigwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o ITV Cymru ac aelodau asiantaethau marchnata.

Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru enillodd y wobr ‘Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn’.

Eluned Morgan enillodd wobr ‘Aelod Cynulliad y Flwyddyn’ a Carolyn Harris enillodd wobr ‘Aelod Seneddol y Flwyddyn’.

Mwy am y stori hon ar wefan Golwg360.

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *