Gwirfoddolwyr yn siomedig wedi i Goed Nadolig ddiflannu

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Maer y Dref yn gosod coeden Nadolig uwch ben un o siopau Stryd y Coleg.
Maer y Dref yn gosod coeden Nadolig uwch ben un o siopau Stryd y Coleg.

Allwch chi helpu aelodau’r Forn Gron yn Llanbed? Ddydd Sul 24ain, tra roedden nhw’n codi coed Nadolig i addurno’r dref, cafodd tair coeden eu dwyn o’r tu allan i Panacea a PJE ar Stryd y Coleg a’r Wash Tub ar Heol yr Orsaf rhwng 10yb a thua hanner dydd. Roedd y goeden y tu allan i Wash Tub wedi’i haddurno â goleuadau a chafodd set o oleuadau eu dwyn o’r tu allan i Neuadd Fictoria hefyd.

Bu aelodau’r Ford Gron yn gosod coed Nadolig o amgylch tref Llanbed gan lwyddo eleni i werthu 65 o goed. Yn y llun gwelir Rob Phillips, aelod o’r Ford Gron a Maer Tref Llanbed, yn mynd i osod un o’r coed mewn braced ar du blaen un o siopau’r dref.

Diolch yn fawr i aelodau’r Ford Gron a’u cyfeillion am drefnu a gosod y coed yn eu lle ar gyfer Noson Siopa Hwyr Llanbed nos Iau 28 Tachwedd. Diolch yn arbennig i’r holl siopau a’r busnesau a brynodd goeden ac am eu rhoddion ariannol caredig, gyda’r elw o’r gwerthiant yn mynd i gefnogi achosion da yn lleol ac yn genedlaethol.

Diolch hefyd i Rob o Ganolfan Arddio Robert’s am brynu’r coed ac i Meirion ac eraill o Wasanaethau Coed Llanbed a Siambr Fasnach Llanbed am eu cymorth parod i’w gosod yn ddiogel yn y bracedi.

Ychydig o bobl sy’n sylweddoli mai gwirfoddolwyr sy’n gwneud y gwaith hyn bob blwyddyn – aelodau’r Ford Gron yn gwerthu a gosod coed Nadolig ac aelodau’r Siambr Fasnach yn gosod goleuadau Nadolig ar y prif strydoedd.  Y cyfan er mwyn rhoi naws yr Ŵyl i’r siopwyr  a ddaw i wneud eu siopa Nadolig yn siopau’r dref.  Pam felly y byddai rhywun yn meiddio anghofio am wir ystyr y Nadolig wrth ddwyn coed a goleuadau gan bobl weithgar sy’n ceisio gwella’r ardal?

Bu’n rhaid i’r Ford Gron brynu coed a goleuadau newydd ac felly bydd llai o arian at achosion da lleol o ganlyniad i hyn. Hysbyswyd yr heddlu o’r digwyddiad ond mae angen help y cyhoedd arnynt hefyd. A welsoch chi unrhyw beth? Os felly, cysylltwch â ni yn uniongyrchol neu Heddlu Dyfed Powys ar 101.

Dymuna’r Ford Gron ddiolch i drigolion Llanbed a’r cylch am eu cefnogaeth eleni, fell./ yn yr Ŵyl Gwrw a Seidr flynyddol a gynhaliwyd ym mis Chwefror, a’r Noson Tân Gwyllt ym mis Tachwedd. Cynhelir Gŵyl Gwrw a Seidr 2020 ar 15 Chwefror yn Neuadd Celfyddydau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbed – gwnewch nodyn o’r dyddiad!

Os oes gennych ddiddordeb yn Ford Gron Llanbed, y mae’n fudiad sy’n rhoi cyfle i ddynion rhwng 18 a 45 oed i gyfarfod yn rheolaidd i gymdeithasu tra’n codi arian ar gyfer achosion da a chyfrannu o’u hamser er budd y gymuned leol. Cefnogwyd yn ddiweddar gwaith Ambiwlans Awyr Cymru, Ambiwlans Urdd Sant Ioan Ceredigion, Ffagl Gobaith / Beacon of Hope Ceredigion ac Hosbis Tŷ Hafan ac Elusen Cancr Plant.

Y mae’r aelodau’n cyfarfod ar nosweithiau Mawrth (y cyntaf a’r trydydd yn y mis) i fwynhau pob math o weithgareddau gan gynnwys canŵio, beicio ac ymweliadau ag amrywiol sefydliadau, ynghyd â chyfarfodydd mwy ffurfiol, yn rhai busnes, a phrydau nos mewn bwytai lleol. Os am wybodaeth bellach a chael gwybod sut i gysylltu â ni, ewch i’w gwefan.