Gwerthu ysgolion Llanwnnen a Chwrtnewydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Adeilad ysgol Cwrtnewydd a Llanwnnen

Yr adeiladau i’w gwerthu ar y farchnad agored

Mae disgwyl i ddwy hen ysgol yn yr ardal gael eu gwerthu ar y farchnad agored cyn hir, sef ysgolion Cwrtnewydd a Llanwnnen.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad gan gabinet Cyngor Sir Ceredigion y mis hwn i werthu’r ysgolion ar y farchnad agored gan yr Adain Stadau.

Mae tair ysgol yn yr ardal wedi bod yn wag ers yr haf eleni wrth i ddisgyblion ysgolion Llanwnnen, Llanwenog a Chwrtnewydd uno ar safle newydd Ysgol Dyffryn Cledlyn yn Nrefach.

Er hyn, does dim disgwyl i adeilad hen ysgol Llanwenog gael ei gwerthu’r un pryd â’r ddwy arall am ei bod yn Ysgol Eglwys ac mi fydd yn dychwelyd at fwrdd cyllid Esgobaeth Tyddewi.

Ymgynghori

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymgynghori â Chyngor Cymuned Llanwenog a Chynghrair Ward Llanwenog am gynigion posib ar sut y gallai’r ardal elwa o’r adeiladau.

Ym mis Ebrill, cafodd holiadur ei ddosbarthu gan Gynghrair Ward Llanwenog yn galw am gynigion i’r adeiladau, ond daeth dim cynnig ffurfiol i law.

Yn dilyn cymeradwyo adroddiad y Cyngor Sir mi fydd yr ysgolion yn cael eu rhoi ar y farchnad agored a’u gwerthu gan Adain Stadau’r cyngor.