Do, aeth criw ohonon ni mas yn Llanbed cyn y Nadolig, a do aeth hi’n eitha gwallgo yn ystod y nos! Cafwyd diwrnod da yn nhafarnau’r dref ar Ddiwrnod San Steffan hefyd. A thestun o lawenydd i bawb yw gweld dwy dafarn wedi ailagor, landlord newydd mewn tafarn adnabyddus arall a’r Clwb Pêl-droed wedi ei adnewyddu. Onid ydym felly yn ffodus o gael cymaint o dafarnau da yn y dref?
Tafarn y Castle ar y Stryd Fawr yw’r man cyfarfod arferol i fwyafrif o yfwyr lleol. Yn dilyn marwolaeth y cyn landlord, mae’n braf gweld landlord newydd yno er mwyn cadw’r dafarn boblogaidd hon ar agor. Dyma le sy’n gweini bwyd, ond yn lleoliad canolog a chyfleus i’r rhan fwyaf o’r tafarnau eraill hefyd. Mae’n ystafell agored â digon o le i eistedd ynghyd â bar mawr croesawgar.
Mae mynediad y Clwb Pêl-droed yn Heol y Porthmyn, ond eto’n gyfleus i weddill tafarnau’r dref. Mae tipyn o waith wedi ei wneud yno’n ddiweddar i addurno’r lle gyda chelfi newydd, cwrw da a chroeso cynnes yn ogystal â chyfleusterau pŵl a darts.
Mae gan Glwb Rygbi Llanbed yn ardal Maesyfelin un o’r adeiladau mwyaf cyfoes o blith clybiau rygbi Cymru wedi ei hailadeiladu’n llwyr yn y blynyddoedd diwethaf. Lle da am fwyd gan gynnwys ar ddydd Sul yn ogystal â chynnal digwyddiadau yno, gyda bar ar y llawr isaf ac ystafell fawr a bar lan llofft. Tony a Mair Hatcher o Gegin Gwenog sy’n gyfrifol am redeg y bariau a darparu’r bwyd arbennig.
Un o deuluoedd Cymraeg Llanbed sy’n rhedeg yr Ivy Bush (neu’r Bush ar lafar) ers blynyddoedd gydag Annwen Coles a’r merched yn cadw trefn. Lleolir y Bush dafliad carreg o Sgwâr Harford. Tafarn gartrefol yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer canu carioci ar achlysuron.
Mike a Marie o Lantrisant sydd wedi ailagor y Kings Head yn Stryd y Bont cyn y Nadolig. Dyma dafarn oedd ag enw da am fwyd blynyddoedd yn ôl a dymuna’r perchnogion newydd ehangu eu darpariaeth yn y misoedd nesaf drwy gynnal noson Tina Turner yno ar y 18fed Chwefror.
Y lle gorau am fwyd yn Llanbed heb os nag oni bai yw Llain y Castell (Castle Green) yn Heol y Bryn gyda theulu Cymraeg arall sef Brian a Mavis yn rhedeg y lle. Cogydd yw Brian a fe sy’n gyfrifol am y bwyd cartref blasus a weinir yno. Mavis wedyn yw’r wyneb hapus croesawgar sy’n eich cyfarch wrth y bar.
Y Llew Du ar y Stryd Fawr yw’r prif westy yn y dref. Tafarn Brains yw’r lle ac maen nhw’n gweini bwyd hefyd.
A’r dafarn arall sydd wedi ailagor yn ddiweddar yw’r Royal Oak gyferbyn â’r Llew Du. Prynwyd yr adeilad gan y gŵr busnes lleol Nick Wright. Mae’r bar yn edrych yn chwaethus iawn wedi ei ailaddurno a chyda chelfi newydd, a chaneuon Cymraeg ar y jiwcbocs i’ch diddanu.
Digon o lefydd gwahanol yn Llanbed felly i iro’ch gyddfau, a phobl wahanol yn gweld gwerth mewn buddsoddi yn nhafarnau’r dref. Ble fydd hi felly i chi dros ddathliadau’r calan?