Ffion Dafis yn cyflwyno’r monolog dirdynnol Anweledig

Poster AnweledigMae Ffion Dafis wedi penderfynu cynnal perfformiadau arbennig o ‪#Anweledig‬ – monolog bwerus Aled Jones Williams am brofiad dynes ganol oed yn wynebu iselder dwys, mewn pedwar lleoliad yng Nghymru er budd dau achos agos at ei chalon. Bydd yr holl elw yn mynd i helpu ffoaduriaid Syria drwy elusen MOAS ac i gefnogi prosiect drama i blant yn India drwy Travellers Worldwide Volunteering. Bydd cyfle i holi cwestiynau am y fonolog neu am yr elusennau ar ddiwedd y perfformiad. Theatr Felinfach​ Nos Wener, 16 Hydref 7:30yh. Nifer cyfyngedig yn unig. Swyddfa Docynnau – 01570 470697 Ar-lein – theatrfelinfach.cymru  Dewch i gefnogi!

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *