Eisteddfod Rhys Thomas James Pant-y-fedwen Llanbedr Pont Steffan 2019

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones
Twm Ebbsworth yn cael ei gadeirio.
Twm Ebbsworth yn cael ei gadeirio.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Ysgol Bro Pedr gan ddiolch i’r Pennaeth, Jane Wyn, am gael defnyddio’r ysgol.

Dyma Eisteddfod gyntaf Rhys Bebb Jones yn Gadeirydd a diolchodd yn ei anerchiad wnaeth agor yr Eisteddfod prynhawn Sadwrn 24 Awst i Delyth Morgans Phillips am ei harweiniad y dair blynedd ddiwethaf.

Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion oedd y Llywydd a’i hanerchiad yn pwysleisio pa mor bwysig yw digwyddiadau fel yr Eisteddfod i gynnig cyfloeoedd i feithrin doniau’r ifanc.

Cafwyd cystadlu ardderchog ymhlith y cystadleuaethau lleol a datblygodd yn ddiwrnod cofiadwy iawn i Meinir a’r teulu oherwydd ei mab Twm Ebbsworth enillodd Gadair y Bardd dan 25 oed. Seren Cariad Bowen enillodd y Tlws Ieuenctid dan 25 oed ac yn seremoni lenyddol ola’r dydd, Martin Huws enillodd y Goron. Disgyblion Ysgol Llanllwni ddawnsiodd i’w gyfarch gyda dawns gwahanol iawn i’r ddawns flodau draddodiadol.

Disgyblion Ysgol Llanllwni yn cyflwyno’r ddawns.
Disgyblion Ysgol Llanllwni yn cyflwyno’r ddawns.

Daeth cystadleuthau’r Sadwrn i ben gyda ’Sgen ti Dalent? Dros 16 oed a’r ddeuawd biano gan ‘Agnetha’ ac ‘Anni-Frid’ yn swyno’r gynulleidfa a’r beirniaid ac yn fuddugol.

Capel Soar oedd lleoliad Oedfa’r Eisteddfod fore Sul gyda’r Parchedig Gareth Morgan Jones yn dewis ei destun amserol o Lyfr Genesis i drafod cyflwr ein cymdeithas a’n byd.

Seibiant wedyn hyd rhagbrofion Llais Llwyfan Llanbed yn Ysgol Bro Pedr yn y prynhawn gyda saith yn ymgeisio gerbron y beirniaid Euros Rhys Evans a Meinir Jones Parry. Y pump aeth yn eu blaen i gystadlu gyda’r hwyr am y brif wobr o £1,000 yn rhoddedig gan Dorian a Delyth a’u teuluoedd er cof am eu rhieni Gerwyn a Mary Jones, Landre, dau o hoelion wyth yr Eisteddfod hon, oedd Emyr Lloyd Jones, Llinos Haf Jones, Eiri Myfanwy Price, Elen Lloyd Roberts ac Erin Rossington.

Arweiniwyd y noson yn gelfydd gan Rhiannon Lewis, ac Eiri Myfanwy Price ddaeth i’r brig gan ennill hefyd y Tlws yn rhoddedig gan Emlyn Davies a’r teulu.

Enillydd cystadleuaeth geiriau’r emyn oedd John Meurig Edwards – daw cyfle yn 2020 i gyfansoddi tôn i’w eiriau grymus a chyfoes.

Llywydd y noson oedd Elsi Jones, Llanbedr Pont Steffan, gynt o Landdewi Brefi. Cyfeiriodd yn ei hanerchiad difyr a hwyliog, gan ddyfynnu o’r nofel ‘Rhys Lewis’, at bwysigrwydd ein diwylliant Cymraeg a Chymreig i gynnal cymdeithas iach a ffyniannus.

Gwawriodd y dydd Llun fel y Sadwrn a’r Sul yn ddiwrnod heulog braf ond ni wnaeth hynny gadw’r tyrfaoedd draw o ERTJ! Agorwyd yr Eisteddfod gan Faer a Maeres Llanbedr Pont Steffan, y Cynghorydd Rob a Mrs Delyth Phillips a’u mab annwyl Tryfan. Cyfeiriodd y Maer yn ei anerchiad at bwysigrwydd yr Eisteddfod a’r holl ddoniau i ddiwylliant ac economi’r dref a’r fro a chawsom flas o gymaint mae’r ardal yn ei olygu iddo ef a’i deulu.

Eifion Williams, Cwmann (siop Crown Stores gynt) oedd y Llywydd a’i anerchiad yn un hwyliog a didwyll. Cyfeiriodd at y diffyg stondinau gwerthu ffrwythau yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan annog Elin Jones AC a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith Ceredigion 2020, i newid y sefyllfa yn Nhregaron! Cynigiodd hefyd newid enw’r Eisteddfod o ERTJ i ERBJ gan gyfeirio at enw’r Cadeirydd!

Iwan Bryn James enillodd y Gadair a Karina Wyn Dafis y Fedal Ryddiaith a braf iawn cael teilyngdod yn y ddwy gystadleuaeth.

Enillwyr rhai o’r prif cystadleuthau llwyfan nos Lun oedd Barry Powell (Her Unawd), Elin Haf Jones (Prif Gystadleuaeth Llefaru), Llinos Haf Jones (Alaw Werin), Joy Cornock (Lieder / Cân Gelf), Zara Evans (Darn Dramatig / Monolog) ac Emyr Lloyd Jones (Unawd Gymraeg a’r Unawd Sioe Gerdd).  Ceir llawer o luniau’r cystadleuwyr yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc.

‘Roedd y cystadlu yn y Celf a Chrefft hefyd o safon uchel ac Ysgol Bro Pedr, yn arbennig Caryl Bulman, Fflur Meredith a Maisie Wright, yn dod i’r brig.

Cafwyd hefyd ‘Talwrn y Beirdd’ bywiog a chystadleuol yn Festri Capel Shiloh nos Lun, ac i roi blas i chi o’r cystadlu yno, dyma limrig buddugol Dorian Morgan:

Ar fore Nadolig eleni
Aeth Boris i chwilio am dwrci
Doedd dim un yn sbâr
Dim chopen na iâr
Neith sosej y tro i’r hen gwrci.

Cewch y canlyniadau ar Trydar gan llongyfarch PAWB ar eu llwyddiant gydol y penwythnos. Edrychwn ymlaen at ERTJ 2020 gan ddiolch yn fawr iawn am gefnogaeth y cystadleuwyr, cyfeilyddion, beirniaid, noddwyr, llywyddion, y gynulleidfa a’r tîm gweithgar a di-flino o swyddogion a gwirfoddolwyr sicrhaodd Eisteddfod dda arall yn 2019.