Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020

Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau 2015

Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2015

Wrth ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau yr wythnos hon, fe’m hatgoffwyd pa mor gyfleus oedd Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro ym 1984 hefyd.

Mae maes delfrydol ym Meifod yr wythnos hon gyda’r maes parcio a’r maes carafannau yn ffinio â lleoliadau’r prif ddigwyddiadau.  Mae popeth mor hwylus yno.  Does dim angen mynd i gostau nac anghyfelustod bysiau gwennol na phontydd dros dro, yn gwmws fel ag yr oedd hi yma yn Llanbed.

Mae Elin Jones AC wedi mynegi ei bod hi’n bryd i’r Eisteddfod Genedlaethol ddychwelyd i Geredigion.  Y tro diwethaf iddi ymweld â’r sir oedd i Aberystwyth ym 1992.

Yn ôl neges drydar gan Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, bu’n trafod hyn gyda chyfarwyddwr yr Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl ac mae Ceredigion ar y rhestr ar gyfer 2020.

Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a'r fro 1984

Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984

Beth yw barn pobl Llanbed am hyn?  Ydy pawb yn barod am yr her o godi arian i’w chynnal?  Ydy safle 1984 yn ddigonol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw?  Neu a fyddai’n decach iddi fynd i un o ardaloedd eraill y sir?

Yn sicr mae yna draddodiad hir o eisteddfota yn yr ardal hon.  Fyddai ardal Llanbed ddim yn brin o wirfoddolwyr eisteddfodol profiadol.  Ac mi fyddai ei chynnal hi ar gaeau Pontfaen yn cynnig tiroedd gwastad i ofynion yr eisteddfod ac o fewn cyrraedd hawdd i gyfleusterau’r dref.

Bu Eisteddfod 1984 yn llwyddiant ysgubol o ran y cystadlu ac o ran gwneud elw.  Cynhwyswyd y dref mewn llawer iawn o weithgareddau hefyd.

Maes 1984 ar gaeau Pontfaen.

Maes 1984 ar gaeau Pontfaen.

Lleolwyd y maes ieuenctid ar dir Penbont Cwmann y pryd hwnnw.  A fyddai hynny yn addas i ddigwyddiadau Maes B yn yr eisteddfod gyfoes?

Gallai Prifysgol y Drindod Dewi Sant gynnig llety unigryw i eisteddfodwyr ac mae Ysgol Bro Pedr ar ei newydd wedd yn cynnig cyfleusterau gerllaw.  Digon o ddewisiadau i gnoi cil arnynt yma felly.

Deuddeg oed oeddwn i yn 1984, ond bu digwyddiad mawr Cymraeg fel hyn yn ein tref fach ni yn ddylanwad mawr arnaf.  Roedd mam ar y pwyllgor Llety a Chroeso, Dad ar y pwyllgor carafannau, Tadcu ar y pwyllgor stiwardio, modryb ar y pwyllgor ieuenctid ac ewythr ar y pwyllgor cyllid.  Roeddwn yn cymryd rhan mewn cyngerdd gyda’r hwyr, yn gwerthu Clonc gyda’r dydd yn ogystal â chystadlu gyda Chôr yr Urdd, helpu ar y maes carafannau a gydag Ambiwlans Sant Ioan ar y Maes.

Roedd yn wythnos lawn gyda Chymru gyfan a’r cyfryngau yn ein bro ni.  Roeddwn i’n ifanc ac yn teimlo bod Llanbed yn cyfri’.  Roeddem yn gallu cynnal Gŵyl Genedlaethol, a’r cyfan yn y Gymraeg – fy iaith i.  Byddai mor braf gallu cynnig profiadau cyfoethog tebyg i blant yr ardal heddiw.

Comments
  1. Gethin Morgan

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *