Dyn 55 oed yn marw mewn damwain beic modur

Mae’n drist iawn i adrodd bod dyn 55 oed o Lanbed wedi ei ladd mewn damwain beic modur prynhawn ddoe.

Digwyddodd y ddamwain ychydig wedi pedwar ar A 482 rhwng Llanbed a phentref Felinfach ar rhiw Temple Bar.  Credir bod Ricky Rees yn gyrru’r beic modur a bod un cerbyd arall yn rhan o’r ddamwain.

Disgrifir Ricky ar facebook heddiw, a arferai fyw yn Llangybi, fel dyn chwedlonol a charedig.  Roedd wastad amser ganddo i eraill ac yn dod â llawenydd i fywydau pawb oedd o’i gwmpas.

Estynnwn gydymdeimlad â’r plant, y teulu a ffrindiau oll.

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *