Diwrnod Hwyl Canolfan Deulu Llanybydder

Cynhaliodd Canolfan Deuluol Llanybydder ddiwrnod hwyl ar 3 Hydref yng Ngwesty’r Llew Du Llanybydder i godi arian angenrheidiol ar gyfer y ganolfan ac i gynyddu cyhoeddusrwydd o fewn y gymuned.

Roedd y diwrnod yn llawn o hwyl a sbri gan gynnwys adloniant amrywiol o gastell neidio a chymeriadau plant trwy gydol y dydd. Roedd stondinau gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Menter Gorllewin Sir Gâr.

Gwesteion y dydd oedd Abs Love (cyn aelod o grwp 5ive) a’i gymar Vicky Fallon a nhw agorodd y digwyddiad.

Codwyd £1,206.

 

 

 

 

 

 

 

 

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *