Digidol ar daith yn llwyddiant

Emma Mees yn hyfforddi criw Llanbed

Ddoe cynhaliwyd sesiwn hyfforddi Digidol ar Daith yng Nghlwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan.

Roedd y sesiwn yn ran o gyfres sydd wedi eu cynnal ledled Cymru gyda’r nod o hyfforddi pobl sydd eisiau creu cynnwys newyddion lleol trey gyfrwng y Gymraeg.

Roedd Emma Meese o  Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd yn hyfforddi ar ddefnydd o’r cygryngau cymdeithasol i gasglu a throsglwyddo gwybodaeth.

Dylan Iorwerth, o gwmni Golwg, oedd yr arbenigwr newyddion ac roedd yn rhoi cyngor ar sut i ysgrifennu straeon arlein.

Mae’r trefnwyr wedi datgan bod y sesiwn yn llwyddiant gyda nifer fawr o bobl leol yn cymryd mantais o’r cyfle.

 

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *