Cymdogion yn cefnogi cyfaill

gan Bethan Payne

Bu trigolion ardaloedd cyfagos  yn dawnsio’n frwd mewn twmpath a gynhaliwyd yn Neuadd Goffa Llangybi ar 29 Mai. Gydag Erwyd Howells wrth y llyw a Bryan yr Organ yn cyfeilio bu tipyn o hwyl a sbri gyda phobl o bob oed yn cymryd rhan. 

Trefnwyd y noson gan Odwyn Davies er mwyn codi arian i Andrew Jones a’i deulu yn dilyn damwain drychinebus yn Chwefror 2014 pan anafwyd Andrew wrth i ddrws chwythu yn ei erbyn. O ganlyniad i’r anafiadau mae Andrew wedi bod  mewn coma ers y ddamwain. 

 

Roedd y twmpath yn gyfle i gymdogion a ffrindiau’r teulu ddod ynghyd i ddangos eu cefnogaeth i ŵr sydd wedi bod yn aelod ffyddlon o’r gymuned dros y blynyddoedd ac roedd yn braf gweld cymaint o ffrindiau’n dod at ei gilydd i gefnogi’r noson.