Cwm Rheidol

Cwm Rheidol

Braf oedd cael cydgerdded gyda Cymdeithas Edward Llwyd lan yng Nghwm Rheidol dan arweinyddiaeth Rees Thomas a Jackie Willmington. Jackie yn ddynes ddaeth i Aberystwyth drwy ei gwaith ac wedi meistroli yr iaith Gymraeg yn arbennig. Dechrau y daith ger llyn Cwm Rheidol a cherdded i fyny am Ystumtuen, a chlywed trên ager ganllath uwch ein pennau yn teithio am Bont ar Fynach. Tarddiad afon Rheidiol nepell o’r Gwy a’r Hafren ar fynydd Pumlumon, gan ymlwybro lawr drwy Bonterwyd a Chapel Bangor am Aberystwyth.

Mae cloddio am fwynau yn rhan uchaf Ceredigion wedi digwydd dros 4000 o flynyddoedd, ond y dair canrif olaf yma bu y llafurio mwyaf am blwm yn y cwm, gyda’r gwaith olaf yn dod i ben yn 1933. Erys creithiau o’r gorffennol yma o hyd gyda twmpathau o gerrig a hylif melyn yn llifo o’r twnelau sydd yn cynnwys zinc, sydd yn niweidiol i fywyd yr afon. Tro ar fyd wedi digwydd yn y cwm, yr hen ddiwydiant a llafurio am blwm wedi rhoi lle i gynhyrchu trydan adnewyddol. Cwmni Statkraft o Norwy wedi buddsoddi arian mawr yn yr ardal yn 1962, ac yn cynhyrchu trydan ers 1964 i’r grid cenedlaethol. Mae pwerdy hydro-drydanol Cwm Rheidol y mwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Er y gwelsom dai moethus, tyddynod bach y mwyngloddwyr a’r ffermydd bach twt wnaeth argraff arnom, gyda mwy nag un addoldy yng nghesail y tirwedd, fel Capel Bethel a oedd yn perthyn i’r Wesleaid.

Y llethrau coediog serth yn rhoi her i’r cerddwyr, a hynny yn amlwg wrth edrych draw at Bont ar Fynach a chael golwg ar readrau yr afon Mynach drwy y coed collddail. Balch clywed bod ail gyflwyno yr anifail bach BELE i wyllt yr ardal, prin yw cofnod ohonynt yng Nghymru, a chreadur bach swil ydyw. Diolch eto i’r arweiniyddion am daith hyfryd.

 

 

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *