Croten o Silian ‘yn falch o fod adre’ o Fanceinion

Drwy hap a damwain, dewisodd Delyth Evans o fferm Tanygraig, Silian y byddai’n dod adref o Fanceinion brynhawn dydd Llun – oriau cyn yr ymosodiad mewn cyngerdd yno.

“Oeddwn i eisiau dod adre, wnes i ddim dweud wrth neb, a wnes i roi sypreis i Mam a Dad,” meddai Delyth sydd yn ei hail flwyddyn yn astudio Hanes ym Mhrifysgol Manceinion.

Erbyn hyn, mae’r ferch yn falch iddi wneud y penderfyniad hwnnw gan osgoi’r trychineb yn dilyn ffrwydrad tua 10.30 nos Lun ar derfyn cyngerdd gan y gantores bop, Ariana Grande.

“Mae’n ofnadwy, dw i wedi bod i sawl arena tebyg i’r un gafodd ei daro, ac fe allai e ddigwydd yn unrhyw le,” meddai Delyth.

Dywedodd fod ganddi lawer o ffrindiau yn y ddinas a’u bod i gyd yn cadw mewn cysylltiad i wneud yn siŵr fod pawb yn iawn.

Ond ymhen wythnos fe fydd Delyth, sy’n aelod o Gymdeithas Myfyrwyr Cymraeg Manceinion, yn dychwelyd i Fanceinion er mwyn paratoi at ei harholiadau.

“Fi’n credu bydd yna deimlad gwahanol yn y ddinas yn gyffredinol nawr. Fi’n meddwl y bydd mwy o’r heddlu ar hyd a lle a bydd pawb yn fwy amheus.”

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *