Croten leol a gafodd ddirwy am barcio, a’i bryd ar fod yn blismones

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Leanne
Leanne

Byddai llawer o bobl yn adnabod Leanne James, Llanbed fel un o fodelau cyson siop Lan Llofft.  Mae hi’n gynorthwyydd dysgu ar hyn o bryd yn Ysgol Bro Pedr, ond wedi cael ei derbyn i ymuno ag Heddlu Dyfed Powys.

Leanne sy’n ateb cwestiynau Cadwyn Cyfrinachau Papur Bro Clonc y mis hwn.  Deallwn fod ganddi 1,087 ffrind ar facebook a’i hoff arogl yw petrol!

Ond os ydych am ddysgu mwy amdani, mynnwch gopi o rifyn Ebrill Clonc.  Pa fath o berson sy’n mynd o dan ei chroen?  Pryd aeth hi’n grac ddiwethaf? A beth yw’r cludfwyd o’i dewis?  Datgelir y cyfan ym Mhapur Bro Clonc.  Ar gael nawr yn y siopau lleol.