Croesawu ffoaduriaid o Syria i Lanbed

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Llanbed yw un o’r llefydd diweddara’ yng Ngheredigion i groesawu ffoaduriaid o Syria, gyda dau deulu yn setlo yn y dre’.

Yn ôl cynghorwyr y dref, mae’n lle naturiol i gynnig croeso i’r teuluoedd hyn, am fod y dref yn gyfarwydd â derbyn a hybu amrywiaeth ac fe fydd bore coffi’n cael ei drefnu i groesawu’r teuluoedd.

“Mae’n stori wych, ac r’yn ni’n falch iawn eu bod nhw wedi gallu dod i Lanbed,” meddai’r Maer, Rob Phillips. “Mae’n dre ddiogel ac, er ein bod ni’n dre’ fach gefn gwlad, r’yn ni’n eitha’ amlddiwylliannol.

“Mae gyda ni bobol o bob rhan o’r byd, felly mae’r gymuned yn eitha da yn ymdopi gyda phobol o lefydd gwahanol, ac mae gyda ni’r ddarpariaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen.”

Gwobr i Geredigion

Daw’r datblygiad wrth i Gyngor Sir Ceredigion ennill gwobr genedlaethol yn cydnabod eu hymdrechion llwyddiannus yn cynnig cartref diogel a chroesawgar i ffoaduriaid.

Ym mis Awst y cafodd y Cyngor Tref wybod am y bwriad ac roedden nhw’n ei groesawu. Mae yna grŵp anffurfiol o bobol leol hefyd yn cynnig help ymarferol.

Yn ôl Rob Phillips, roedd y Cyngor Tref “yn falch iawn bod ni’n gallu chwarae rhyw ran yn helpu pobol sy wedi gorfod ffoi o’r rhyfel erchyll draw yn Syria.

“R’yn ni’n gobeithio efelychu y math o drefniant sydd yn Aberystwyth, lle mae [mudiad] Aberaid yn helpu’r ffoaduriaid yn Aberystwyth i ddod yn rhan o’r gymuned ac i setlo yn y dref yn hapus ac yn ddiogel.

‘Nifer wedi dysgu’r Gymraeg’

“Mae gyda ni enghreifftiau o rai o’r ffoaduriaid yn rili mynd ati i fynd i mewn i’r gymuned; mae nifer ohonyn nhw wedi dysgu’r Gymraeg,” meddai Rob Phillips.

“Mae’r plant yn mynd i’r ysgol lle maen nhw’n dysgu’r Gymraeg, ac mae yna enghraifft o ffoadur yn Aberystwyth sydd wedi dysgu’r Gymraeg ac mae’n gwneud gwaith yn y Gymraeg erbyn hyn.

“Fe wnes i araith yn Steddfod Llanbed ac o’n i’n gweud ein bod ni fel Cymry Cymraeg eisiau cryfhau’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, ac mae rhaid inni wneud hynny trwy dynnu mwy o bobol i mewn.

“Ni eisiau rhannu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, ac mae hwn enghraifft dda o sut gallen ni wneud hyn. A bydden nhw’n elwa wedyn o gael persbectif gwahanol, a hefyd eu bod nhw’n gallu chwarae rhan lawn yn y gymdeithas yn lleol.

‘Dyletswydd’

Dyma neges Rob Phillips: “Mae’r teuluoedd yma wedi gorfod ffoi o’u gwledydd nhw, maen nhw wedi mynd hanner ffordd rownd y byd, maen nhw’n cael eu symud i rywle lle nad ydyn nhw’n nabod unrhyw un, ac mae’n ddyletswydd arnon ni nawr i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael croeso, eu bod nhw’n cael cefnogaeth a bod nhw yn gallu cael rhyw fath o normalrwydd yn eu bywydau nhw.

Yn ôl y Cynghorydd Dinah Mulholland, roedd  hi’n bwysig pwysleisio mai mewn tai preifat y bydd y teuluoedd yn byw, nid mewn tai cymdeithasol.

“Maen nhw oll yn dysgu Saesneg, ac maen nhw oll yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r gymuned, ac r’yn ni’n llawn cyffro i gwrdd â nhw.

“Rhaid imi ddweud bod Llanbed yn lle croesawgar iawn ac mae llawer o bobol yma’n gweithio’n galed iawn, iawn i wneud y lle hwn y lle gorau i fyw ynddo.”