Corau’r ardal ar eu ffordd i Lundain

Teilwng yw’r Oen
(Llun: Theatr Felin-fach)

Perfformio Teilwng yw’r Oen yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain 

Mae tri o gorau Ceredigion ar eu ffordd i Lundain y penwythnos hwn, ac yn eu plith mae côr Corisma o Gwmann. 

Fe ddaw hyn yn dilyn gwahoddiad gan Weinidog Eglwys Gymraeg Canol Llundain, Robert Nicholls, i berfformio’r cynhyrchiad Teilwng yw’r Oen yn y ddinas. 

Ym mis Ionawr eleni, bu aelodau Côr Corisma, Côr Cardi-gân o Ddyffryn Aeron a Meibion y Mynydd o Bonterwyd yn rhan o’r cynhyrchiad yn Theatr Felin-fach. 

Y cerddor Rhys Taylor o Aberystwyth fu’n gyfrifol am osod trefniant cerddorol y sioe gyda pherfformiadau gan yr unawdwyr Deiniol Wyn Rees a Non Williams o grŵp Eden, gyda Meleri Morgan o Fwlch-llan yn llefarydd i’r sioe. 

Ond y penwythnos hwn mi fyddan nhw’n perfformio yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain nos Sadwrn (Hydref 21). 

‘Egni creadigol cymunedau’

“Rydym yn hynod o gyffrous am berfformio Teilwng yw’r Oen i gynulleidfa Llundain ac mae’r cyffro sydd wedi ei greu a’r gefnogaeth rydym wedi ei dderbyn wedi bod yn syfrdanol,” meddai Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felin-fach. 

“Mae’r cynhyrchiad yn dyst i egni creadigol ein cymunedau ac yn dangos beth sy’n bosib wrth ddod at ein gilydd.” 

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *