Canmoliaeth wrth lawnsio nofel newydd Heiddwen Tomos

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Pen ac ysgwyddau Heiddwen Tomos a hithau wth ddarllenfa yn darllen o'r llyfr
Heiddwen Tomos yn darllen o’i nofel newydd Esgyrn adeg y lawnsio yn Gorsgoch

Mae’n bwysicach fod pobol yn darllen a mwynhau nofel nag ennill gwobr – dyna neges Heiddwen Tomos, Pencarreg, wrth lawnsio ei nofel newydd, Esgyrn, yn Neuadd Gorsgoch.

Roedd tyrfa dda yno i ddathlu cyhoeddi’r gwaith a ddaeth o fewn dim i ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a Heiddwen Tomos yn ymateb i gwestiwn oedd yn awgrymu ei bod wedi cael cam. “Fel’na mae’n mynd,” meddai hithau.

Roedd hi hefyd yn tanlinellu pa mor bwysig iddi hi oedd defnyddio tafodiaith ei hardal – “Mae’n rhaid iddo fod yn real,” meddai.

Fe ddatgelodd fod y nofel wedi ei hysbrydoli gan stori a glywodd ar y clos gan ei rhieni yng nghyfraith ond ei bod wedi newid cymeriadau, amseroedd ac amgylchiadau.

Canmol mawr

Mae’r nofel wedi cael ei chanmol yn hael mewn adolygiadau ac ar raglen Radio Cymru, y Silf Lyfrau, yr wythnos hon.

Yn y gystadleuaeth yn yr Eisteddfod, roedd dwy o’r beirniaid wedi gwirioni ar Esgyrn a’i gosod ar y blaen ond wedi cael eu perswadio gan y trydydd nad oedd digon o “linyn storïol” ynddi.

Mae’r stori wedi ei gosod mewn ardal sy’n debyg iawn i ardal Clonc ac yn llawn o iaith cefn gwlad Ceredigion – er fod Heiddwen Tomos yn cydnabod ei bod wedi cwtogi ychydig ar yr “effs” er mwyn y gystadleuaeth!

Mae Esgyrn yn cael ei chyhoeddi gan Y Lolfa am £8.99