Camau Nesaf tu allan i’r UE – sgwrs

gan Jill Tomos

Mae nifer o eglwysi Llambed, a Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru), yn cyd-weithio i roi cyfle i bobl ein hardal ni, rhai o bob cefndir a ffordd o fyw, wrando arnon ni’n gilydd, a rhannu gweledigaeth o’r Gymru rydym am ei gweld yn y cyfnod ôl-Brexit.

Ar ôl sylwadau agoriadol gan ein cadeirydd, Dylan Iorwerth (ond nid darlith fydd hi!) bydd cyfle i ddewis pa grŵp sgwrs i ymuno ag e ar gyfer prif ran y noson, er mwyn trafod yn benodol un o’r canlynol:

Addysg, yn cynnwys addysg uwch
Amaethyddiaeth a bywyd gwledig, yr economi a chyflogaeth leol
Dinasyddiaeth, hunaniaeth a hawliau dynol
Mudo a hawl pobl i symud yn rhydd
Perthynas Cymru â’r byd (Datblygu rhyngwladol, masnach deg, cadw’r heddwch…)

Er mai aelodau’r grŵp fydd yn pennu cynnwys y trafod, efallai y byddai’r grŵp Amaethyddiaeth a bywyd gwledig, er enghraifft, yn meddwl ystyried pynciau fel ein gobaith am gyfleoedd i’n pobl ifainc – mynd i ffwrdd neu aros yn lleol; ac mewn amaeth, beth yw’r cydbwysedd priodol rhwng cynhyrchu bwyd a chadwraeth, ac a fydd sicrhau hynny yn haws neu’n fwy anodd i’r dyfodol. Neu fe allai aelodau’r grŵp ddymuno mynd i gyfeiriad arall yn llwyr!

Ac ar ôl egwyl fer, ac yna dod yn ôl yn grwpiau, bydd y trafod yn parhau, gan ofyn: Beth Nesaf?

Bydd y noson yn cael ei chynnal yn neuadd Ysgol Bro Pedr ar nos Fawrth 13 Mawrth o 7yh hyd at 9yh, ac mae croeso i bawb sydd â diddordeb i gyfrannu i’r sgwrs. Y gobaith yw y bydd amrywiaeth helaeth o’n cymdogion a’n cyd-ddinasyddion o bob cefndir yn dod. Bydd y noson yn ddwyieithog, Cymraeg a Saesneg, a bydd y grwpiau sgwrs yn cael eu cynnal ar wahân yn y ddwy iaith.

Felly! Mae gwahoddiad i chi: plîs dewch, a plîs pasiwch y neges ymlaen i eraill allai fod â diddordeb!