Cam ymlaen i ddatblygu’r iaith Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr

gan Siwan Richards
Pwyllgor Cymreictod @YsgolBroPedr
Pwyllgor Cymreictod @YsgolBroPedr

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ddatblygu cyfrwng iaith i’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Bro Pedr, Llambed.

Ar 15 Mawrth 2018, penderfynodd aelodau o Gorff Llywodraethol Ysgol Bro Pedr yn unfrydol i gefnogi proses ymgynghori ar ddatblygu cyfrwng iaith y Cyfnod Sylfaen yn yr ysgol. Yn ei gyfarfod ar 16 Hydref 2018, fe wnaeth Cabinet gefnogi a chymeradwyo penderfyniad y Corff Llywodraethol i gychwyn cyfnod ymgynghori ar ddatblygu cyfrwng yr iaith i’r Gymraeg yn y cyfnod sylfaen yn Ysgol Bro Pedr.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae penderfyniad y Corff Llywodraethol i gymeradwyo’r broses ymgynghori yn cefnogi’r cyd-destun ehangach a nodir yn CySGA Sir Ceredigion, sef bod mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cefnoga’r penderfyniad hefyd nod y Cyngor i addysgu disgyblion Ceredigion i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd a datblygu ar y gallu hwnnw yn ystod eu cyfnod yn yr uwchradd.”

Ar hyn o bryd, addysgir disgyblion sy’n trosglwyddo o’r Dosbarth Derbyn i flwyddyn 1 mewn dosbarthiadau ar wahân. Addysgir un dosbarth yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg a’r llall drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai gweithredu penderfyniad y Corff Llywodraethol yn golygu mai dim ond addysg cyfrwng Cymraeg fyddai’n cael ei ddarparu at ddiwedd y cyfnod sylfaen. Byddai dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn parhau yng nghyfnod allweddol 2.

Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol yn cychwyn ar 06 Tachwedd 2018 lle bydd cyfle i gyflwyno safbwyntiau a sylwadau ar y cynnig neu i gynnig cefnogaeth i’r drefn bresennol. Yn ychwanegol, bydd sesiynau galw mewn wedi eu trefnu yn yr ysgol er mwyn galluogi rhieni i drafod y cynnig mewn manylder gydag aelodau o’r Corff Llywodraethol a swyddogion o’r Cyngor Sir.

Mae penderfyniad y Cabinet yn cyfrannu at wireddu blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o fewn y Strategaeth Gorfforaethol o fuddsoddi yn nyfodol y bobl.

Os cymeradwyir y cynnig ar ôl y cyfnod ymgynghori, bydd yn weithredol o 01 Medi 2019. Er hyn, byddai disgyblion sydd ar hyn o bryd yn derbyn eu haddysg yn y cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Saesneg yn parhau i wneud hynny nes iddynt drosglwyddo i gyfnod allweddol 2.