Bowlio yn Seland Newydd

gan Alis Butten

Llongyfarchiadau i Anwen Butten o Glwb Bowlio Llanbed ar ennill medal arian mewn gêm brawf Chwe Gwlad yn Christchurch, Seland Newydd fis Mawrth.

Anwen Butten o Glwb Bowlio Llanbed allan yn Seland Newydd.
Anwen Butten o Glwb Bowlio Llanbed allan yn Seland Newydd.

Roedd Anwen yn cynrychioli Cymru mewn tîm o bedair ac arweiniodd y tîm i fuddugoliaeth yn erbyn De Affrica, Malaysia, Awstralia, Seland Newydd a chael gêm gyfartal yn erbyn yr Alban. Roedd y pedwarawd wedi dod i’r brig o fewn y grŵp ond yna wedi colli yn y gêm derfynol yn erbyn Seland Newydd, o dan amgylchiadau anodd mewn gwyntoedd cryf.

Pob lwc i Melanie Thomas o Glwb Bowlio Llanbed a fydd yn teithio allan i Awstralia ar gyfer y Pencampwriaethau Byd dan 25 i gynrychioli Cymru ym mis Ebrill.

Enillwyr y fedal arian: Laura Daniels, Jess Sims, Kathy Pearce a Anwen Butten.
Enillwyr y fedal arian: Laura Daniels, Jess Sims, Kathy Pearce a Anwen Butten.