Bardd o Gorsgoch yn cyhoeddi cyfrol newydd

Mae bardd a cholofnydd o Gorsgoch wedi cyhoeddi ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos hon.
Mae Karen Gemma Brewer yn adnabyddus fel un o golofnwyr y Grapevine yn Llanbed ac mae hefyd yn cyfrannu at golofn ffasiwn cylchgrawn Ego yn Aberystwyth.
Er ei bod wedi cyhoeddi cerddi mewn amryw o gyfrolau eraill, Seeds From a Dandelion yw ei chyfrol unigol gyntaf.
“Dw i’n byw mewn ardal brydferth, ac mae cefn gwlad yn fy ysbrydoli i ysgrifennu,” meddai gan ddweud ei bod wedi ymgartrefu yn yr ardal ar fferm Glyn yr Helyg ers 1981 er iddi gael ei geni yn Wiltshire.
Mae’n disgrifio ei cherddi fel rhai “sy’n mynd â’r cyffredin i fyd swreal ac yn ôl.”
Mae’r gyfrol yn cynnwys cerddi am fryniau, cymoedd a thraddodiadau’r ardal gydag un cerdd yn sôn am gyfrif defaid.
Mae Karen yn rhedeg cwmni dillad yn Aberaeron hefyd o’r enw Gwisgo sy’n cynnig dillad a chyfwisgoedd vintage a rhai gan ddylunwyr.
Mae’r gyfrol Saesneg ei hiaith gan wasg Cowry ar gael mewn siopau lleol, ac fe fydd Karen yn gwerthu copïau hefyd yng Ngŵyl Fwyd Llanbed ar ddydd Sadwrn (Gorffennaf 29).

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *