Bydd bandiau o Gymru yn perfformio yn Neuadd Fictoria Llanbed nos Sadwrn 30ain Mehefin. Trefnir y noson gan Celf Llambed.
Daw REGIME o fryniau Sir Benfro, wedi gwneud eu henw ym Mryste, Barcelona a California. Maen nhw’n cyflwyno cadwyn o alawon brwdfrydig ac ysbrydoledig o Hip-Hop, Rege a Roc. Edmygir gan bobl ifanc yn eu harddegau, anarchwyr, arweinwyr plaid ac ymgyrchwyr gwleidyddol. Maen nhw’n cynnig arlwy ddifrifol sydd â rhywbeth i bawb.
Wedi ei ffurfio yn wreiddiol ym mis Hydref 2014, mae CALFARI yn fand chwe darn o Ynys Môn. Mae’n nhw’n rhannu angerdd am weithio yn y stiwdio a pherfformio’n Gymraeg.
Cafodd eu halbwm gyntaf ei ryddhau ym mis Gorffennaf 2017, gan barhau ag arddull y ddwy ep “Nôl ac ymlaen” a “Tân”, gyda chynhyrchiad prif ffrwd dwys, lleisiau caboledig, ac alawon gitâr bachog. Mae’r band wedi derbyn clod uchel gan BBC Radio Cymru a sawl gorsaf radio arall.
Mae Celf Llambed yn brosiect cymunedol nid er elw ac yn gangen o Ymddiriedolaeth Datblygu Transition Llambed. Caiff yr holl enillion a wneir o’r nosweithiau cerddoriaeth fyw eu dychwelyd i ariannu rhagor o nosweithiau cerddoriaeth fyw i’r gymuned a’r ardaloedd cyfagos.
Felly, cofiwch fynd i fwynhau’r ddau fand poblogaidd hyn yn Neuadd Fictoria nos Sadwrn o 8.30 o’r gloch ymlaen. Tocynnau yn £8 a £12 ar gael yn Mulberry Bush neu ar y we.