David Thorne yn Esbonio Enwau Lleoedd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Dr David Thorne yn annerch cynulleidfa yn Ysgol Llanllwni. Llun: Tim Jones.
Dr David Thorne yn annerch cynulleidfa yn Ysgol Llanllwni. Llun: Tim Jones.

Bu darllenwyr Papur Bro Clonc yn ffodus iawn dros y deng mlynedd diwethaf i ddysgu llawer am enwau lleoedd yng ngholofn fisol y Dr David Thorne, Llanllwni.

Erbyn hyn mae David wedi cyhoeddi 100 o golofnau yn y papur a hynny dan nawdd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

Mae’r gymdeithas yn hybu ymwybyddiaeth ac astudiaeth o enwau lleoedd Cymru, ac yn anelu i warchod enwau lleoedd sydd efallai mewn perygl o ddiffyg defnydd. Mae’r gymdeithas hefyd yn ystyried y berthynas rhwng enwau lleoedd, hanes a diwylliant Cymru.

Dechreuodd ei gyfraniadau nôl yn 2008 gydag esboniadau am enwau lleol fel Sarn Elen a Sarn Gining, ac ers hynny mae pawb wedi eu diwallu â gwybodaeth hanesyddol a diddorol am enwau lleoedd.

David yw Cadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ac mae’n arbenigo yn y maes ers blynyddoedd.  Ef oedd Pennaeth Yr Adran Gymraeg hefyd ym Mhrifysgol Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan cyn ei ymddeoliad rhai blynyddoedd yn ôl.

Canfed cyfraniad Dr David Thorne i Bapur Bro Clonc
Canfed cyfraniad Dr David Thorne i Bapur Bro Clonc

Yn ei golofn gyntaf ym Mhapur Bro Clonc dywedodd David “Fe wyddom ni i gyd yn union lle’r ydym ni’n byw ac rydym ni i gyd yn gwybod beth yw enw’r pentref a’r plwyf. Ond faint ohonom ni sydd wedi ystyried beth yw ystyr rhai o’r enwau hynny? Maen nhw i gyd yn enwau pwysig. Dyma’r labeli sy’n gwahaniaethu rhwng gwahanol rannau ein cymdogaeth ni.

“Ond mae enwau lleoedd yn fwy na labeli bach cyfleus i’r postmon, oherwydd dyma’r enwau sy’n ein cynrychioli ni yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn y byd mawr tu allan. Enwau lleoedd yw’r unig elfennau ar fap nad oes modd o gwbl eu cynrychioli nhw gan arwydd neu simbol. Heb enw lle, mae’r map yn diffygiol. Mae’r Llywodraeth yn mynnu bod rhif adnabod yn cael ei roi i bob cae ac i bob llain ac i bob cilcyn. Ond dyw hyn yn golygu bod rhaid anwybyddu enwau caeau ac enwau lleoedd sydd yn aml yn ganrifoedd oed.”

Dr David Thorne yn tywys taith am enwau lleoedd ym Mhumsaint
Dr David Thorne yn tywys taith am enwau lleoedd ym Mhumsaint

Cred David yn gryf y dylem warchod enwau lleoedd traddodiadol Cymraeg, a dyna’n rhannol oedd ei genhadaeth wrth gyfrannu ei arbenigedd yn y papur bro.

“Ond weithiau pan fydd tŷ neu ffarm yn newid dwylo, mae’r enw yn cael ei newid hefyd. Mae’n weithred haerllug ac yn ddim byd llai na fandaliaeth pur. Ac mae’r fandaliaeth, rwy’n ofni, sydd ar gynnydd ac yn amlwg drwy’r wlad.

“Onid yw’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i geisio sicrhau nad rhyw ffurfiau dwl, gwamal fel hyn fydd yn ein cynrychioli ni ac yn cynrychioli’n plant ni yn llygad y byd ac yn ein milltir sgwar ni ein hunain?”

Neges glir felly gan David Thorne i bob un ohonom, a diolch yn fawr iawn iddo am ei gyfraniadau gwerthfawr i’r papur bro dros y blynyddoedd.