Ai diffyg olyniaeth yw tranc ein siopau traddodiadol?

Prysurdeb Sgwâr Llanbed

Prysurdeb Sgwâr Llanbed

Peth diflas yw gweld arwyddion ar siopau yn Llanbed eu bod yn cau, a nifer o siopau yn y dre yn wag yn barod.  Beth yw’r rheswm dros golli cymaint o’r siopau traddodiadol hyn?

Bu Llanbed yn adnabyddus am ei siopau teuluol dros y blynyddoedd.  Siopau arbenigol oedd yn cynnig gwasanaeth personol a siopau gyda’u perchnogion yn siaradwyr Cymraeg yn cyflogi siaradwyr Cymraeg lleol.

Ychydig iawn o’r siopau hyn sydd ar ôl bellach.  Mae Gwilym Price ei fab a’i ferched, Lloyd y Gemydd, J H Roberts a’i feibion a W D Lewis a’i fab ymhlith y siopau henaf yn y dref.  Rydym yn hynod o ffodus bod siopau arbenigol eraill wedi sefydlu yma fel cigydd, sawl pobydd, siop bapurau, siopa addurno, sawl fferyllydd, siop offer

Eifion Williams Crown Stores a Mary Davies.

Eifion Williams Crown Stores a Mary Davies.

swyddfa, groser, siopau dillad menywod, siop flodau, llefydd bwyta ac eraill.  Ond gyda dwy siop amlwg yn y dre ar fin cau eu drysau, mae’n bryd gofyn cwestiynau.

Sefydlwyd J H Williams a’i feibion yn 1958, a bu ganddynt pum siop ar un adeg – pedair yn Llanbed ac un yng Nghaerfyrddin.  Erbyn heddiw y meibion sy’n rhedeg y cwmni – Eifion yn adran y bwyd ac Alun yn adran y llestri.  Dyma ddau frawd sydd wedi cysegru eu bywydau i redeg y busnes.  Ond o fewn y misoedd nesaf, oherwydd ymddeoliad, fe ddaw’r cyfan i ben.  Mae’r siop lestri eisoes wedi cau ond y siop fwyd yn parhau i wasanaethu cwsmeriaid ffyddlon am y tro.  Bydd yna fwlch enfawr yn y Stryd Fawr os na ddaw siopau eraill yn eu lle.

Tina Trysor

Tina Trysor

Dechreuodd Tina Wilson, Gemdy Trysor ei siop yn Stryd y Coleg, Llanbed bron ugain mlynedd yn ôl ac mae ganddi siop yng Nghaerfyrddin hefyd ers sawl blwyddyn.  Mae’n arbenigo ar werthu aur o Gymru.  Dros y blynyddoedd enillodd sawl gwobr gan gynnwys gwobr Cymdeithas yr Iaith yn 2010 am gynnig gwasanaeth o safon yn yr iaith Gymraeg.  Ond mae’r silffoedd bron yn wag a’r siop yn cau yn Llanbed yn y pythefnos nesaf.  Ymhlith y rhesymau dros gau, yn ôl Tina, yw bod arferion siopa pobl wedi newid a bod siopwyr yn gyffredinol yn gwario llai.

Roedd bobl yn arfer dod o bell i siopa yn Llanbed pan oedd siopau dillad enwog yma, ond o un i un fe gaeodd siop dillad dynion Daniel Davies a siop ffasiynau B J Jones.  Roedd bwrlwm yn y dref hefyd pan oedd Mart Anifeiliaid yma gyda’r gwragedd yn siopa tra’r oedd y gwŷr yn gwerthu stoc.  Bu cyfnod pan oedd llawer mwy o brysurdeb yng ngholeg y dref ac yn ystod y tymor academaidd byddai llawer mwy o fyfyrwyr o gwmpas.  Fe symudwyd y swyddfa bost o ganol dre i archfarchnad ar y cyrion nôl yn 2007.  Ydy hyn wedi cyfrannu at ddirywiad ym mhrysurdeb y dre?  Rhaid talu am barcio yn nhre Llanbed erbyn hyn hefyd, lle mae’r archfarchnadoedd ar y llaw arall yn gallu cynnig parcio am ddim neu hyd yn oed cludo’r nwyddau i’r cartref.  A beth am drethi busnes?  Y son yw bod y rheiny’n rhy uchel ac yn mogi’r busnesau bach.

Swyddfa Bost canol y dre'n cau yn 2007.

Swyddfa Bost canol y dre’n cau yn 2007.

Ar ben hyn, mae siopa ar y we yn llawer mwy cyfleus ac yn cynnig cynnyrch rhatach.  Os nad yw siopau’r dre o bosib wedi symud gyda’r oes i werthu ar y we hefyd, yna mae’n anodd iawn iddynt i gadw deupen llinyn ynghyd yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Ond a oes rheswm arall bod y siopau hyfryd yma’n cau?  Rheswm, efallai sy tipyn mwy amlwg o ystyried mathau y siopau ydyn nhw.  Ai diffyg olyniaeth deuluol yw tranc ein siopau traddodiadol?  Mewn rhai achosion efallai nad oedd plant yn y teulu i barhau a’r busnes, a lle’r oedd plant yn y teulu doedden nhw ddim am barhau i gario’r baich.  Penderfynu torri eu cwys eu hunain i feysydd hollol wahanol y gwnaeth nifer o blant y siopau teuluol hyn yn hytrach na dilyn ôl traed eu rhieni.  Ac oherwydd hyn, fe ddaeth yr olyniaeth ac enw da’r siopau unigryw hyn i ben.

Does dim hawl pwyntio bys a rhoi’r bai arnynt am dranc siopau’r dre.  Mae gan bawb hawl i ddilyn gyrfa fel y mynnant.  Efallai bod peth bai ar y byd addysg lle mae pwyslais ar safonau a chanlyniadau arholiadau yn hytrach na hybu cyflogadwyedd.  Ydy cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn ceisio gwneud iawn am hyn dwy’r uned Mentergarwch?  Gobeithio wir.  Ond efallai bod hynny hefyd yn gosod disgwyliadau uchel.  Oes angen cymhwyster Bagloriaeth Cymru i redeg siop?  Pam na all ysgolion mewn ardal fach fel hyn bwysleisio pwysigrwydd rôl y siop deuluol wrth hybu gwerthoedd cymunedol?

Lan Llofft

Lan Llofft

Un sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus yn siop ei modryb yw Angharad Williams.  Mae’n rhedeg siop ddillad cyfoes Lan Llofft yn Stryd y Coleg ers dros bum mlynedd.  Drwy estyn cymorth i Angharad, mae Janice Williams o Siop Duet wedi llwyddo i sicrhau olyniaeth.

Wrth holi Angharad beth yw ei chyngor hi i berson ifanc sydd eisiau agor siop yn Llanbed, ei hymateb hi oedd “Ma angen cymorth ffrindie a theulu.  Rhaid dewis busnes sydd o ddiddordeb.  Os oes angerdd gennych yn yr hyn chi’n neud dyw e ddim yn teimlo fel gwaith caled wedyn.  A rhaid cymryd mantais o bob cyfle.  Er ei fod yn lot o waith, mae e werth e yn y diwedd.”

Yn ogystal â rhedeg y siop mae’n sylwebu ar ffasiwn ar S4C a Radio Cymru.  Mae’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol hefyd i farchnata ac yn llwyddo i gyrraedd cwsmeriaid ifanc.  Ai dyma’r ffordd ymlaen?

Os am agor siop newydd mae Adain Busnes Cymru o dan ofal Antur Teifi yn gallu cynnig cymorth i ddechrau busnes yng Ngheredigion.  Gallant gynorthwyo wrth ddatblygu syniadau busnes a dyheadau.

Cerdyn Teyrngarwch Llanbedr Pont Steffan

Cerdyn Teyrngarwch Llanbedr Pont Steffan

Ar ddiwedd y dydd, mae dal y galw am siopau yn nhre Llanbed.  Dychmygwch, byddai’n llwm iawn yma hebddyn nhw.  Neilltuwch amser yn eich bywydau prysur bob wythnos i fynd i’r dre am awr neu ddwy.  Gwnewch e’n achlysur teuluol.  Does dim profiad brafiach na mynd o siop i siop, siarad gyda hwn a’r llall, aros am bryd bach o fwyd cyn llenwi cist y car â’ch siopa.  Defnyddiwch Gerdyn Teyrngarwch Llanbedr Pont Steffan hefyd yn siopau’r dref er mwyn cael cyfle i ennill talebau i’w gwario yno.

Mae’n ddyletswydd ar y trigolion i gefnogi siopau lleol oherwydd mae fel cylch y rhod – wrth siopa’n lleol, fe gyflogir pobl leol a’r rheiny’n siaradwyr Cymraeg.  Y siopau lleol hefyd sy’n gefnogol i’r gymuned pan gynhelir digwyddiadau fel sioeau, eisteddfodau a digwyddiadau tebyg.  Dydy’r archfarchnadoedd na’r cwmnïoedd cenedlaethol ddim yn cefnogi digwyddiadau lleol.

Ai diffyg olyniaeth yw tranc ein siopau traddodiadol?  Ie, gellir deall hynny mewn sawl achos, ond mae ffactorau eraill yn cyfrannu’n fawr hefyd.  Y gwirionedd yw bod cyfrifoldeb ar bawb i wneud rhywbeth er mwyn gwella’r sefyllfa.

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *