Aelod o Urdd y Benywod Brondeifi ers hanner canrif

Eryl Jones yn cyfarch Beti.  Llun: Elma Phillips

Eryl Jones yn cyfarch Beti. Llun: Elma Phillips

Cafwyd noson arbennig wedi ei threfnu gan aelodau o Urdd y Benywod Brondeifi i anrhydeddu Mrs Beti Evans sydd wedi bod yn aelod ers hanner canrif ac wedi bod yn Llywydd ar y gangen yn ddi-dor ers 27 mlynedd.

Fel arwydd o barch am ei chyfraniad gwerthfawr trefnwyd parti syrpreis iddi a derbyniodd rhodd ariannol a phlanhigyn yn ogystal â’i hapwyntio yn Llywydd Anrhydeddus y gangen.

Bu Margaret Jones yn gwneud arddangosiad coginio yn ystod y cyfarfod a mwynhaodd pawb luniaeth hyfryd ar ddiwedd y noson.

Cyfarfod Urdd y Benywod Brondeifi.  Llun: Elma Phillips

Cyfarfod Urdd y Benywod Brondeifi. Llun: Elma Phillips

Leave a Reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *